(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer cyfleusterau sy'n bodoli eisioes ac y mae'n bosibl eu bod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd. Mae cynlluniau partneriaeth ansawdd yn cael eu cyflwyno gan Ran II o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.

O dan Reoliad 3, ni chaiff cyfleusterau sy'n bodoli eisioes fod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd os oeddent wedi'u darparu'n gyntaf fwy na deng mlynedd cyn i hysbysiad o'r cynllun arfaethedig gael ei roi. Os cafodd cyfleuster sy'n bodoli eisioes ei ddarparu'n gyntaf mwy na phum mlynedd ond llai na deng mlynedd cyn i hysbysiad o'r cynllun arfaethedig gael ei roi, caiff fod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiad, sydd heb ei dynnu'n ôl, wedi'i wneud gan berson sy'n dibynnu ar y cyfleuster hwnnw wrth ddarparu gwasanaeth lleol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i wrthwynebiad at ddibenion rheoliad 3(2) fod yn ysgrifenedig neu drwy gyfathrebu electronig a bod yn rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdod priodol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan adran 115(1).

Mae rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd yn rhoi hysbysiad o gynllun arfaethedig, bennu'r dyddiad y mae'n credu y darparwyd pob cyfleuster perthnasol gyntaf, a'r dyddiad erbyn pryd y bydd yn rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud, ac ni chaniateir i'r dyddiad hwnnw fod yn llai na 42 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad.