Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas รข Chymru, yn diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 a Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991.

Effaith y diwygiadau fydd ymestyn y dyletswydd sydd ar awdurdod cyfrifol i hysbysu wrth leoli plentyn, fel ei fod yn cynnwys nid yn unig y cyrff a nodwyd yn yr ardal ble mae'r plentyn yn byw, ond y cyrff cyfatebol yn yr ardal lle caiff y plentyn ei osod yn ogystal. Mae hefyd yn darparu i awdurdodau cyfrifol ei gwneud yn ofynnol bod asesiad iechyd yn cael ei gynnal ac yna llunio cynllun iechyd ar gyfer y plentyn ac i sicrhau ei fod yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd addas yn ystod y lleoliad.

Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Plant eu diwygio fel eu bod yn cynnwys adolygiad o'r cynllun iechyd fel rhan o'r broses adolygu a sefydlwyd o dan y Rheoliadau yna. Caiff oedran plant iau, y mae'n ofynnol cynnal eu hadolygiad iechyd bob chwe mis, ei ymestyn hyd at bum mlwydd oed.