Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas รข Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.
Mae'r darpariaethau yn darparu ar gyfer newidiadau i'r canlynol:
rhyddfreiniad torfol gan denantiaid fflatiau: adrannau 114 i 120, 125, 127 i 128;
caffael prydlesi newydd i denantiaid fflatiau: adrannau 129 i 136;
rhyddfreiniad ac estyn prydles gan denantiaid tai: adrannau 137 i 147;
ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliad i benodi rheolwr ar floc o fflatiau: adrannau 160 a 161; a
y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles: adran 162.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau mewn Deddfau eraill.