xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3012 (Cy 284) (C.96)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002

Wedi'i wneud

4 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn

2.  Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn—

(a)adrannau 114, 129, 132, 133, 137 a 142;

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn—

(i)adrannau 115 i 120, 125, 127, 128, 130, 131, 134 i 136, 138 i 141, 143 i 147, 160 i 162; a

(ii)adran 180 i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diddymiadau hynny yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;

(c)adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 122, 151 to 153, 156, 164, 166, 167, 171, 174 ac Atodlen 12, i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2002

Erthygl 2(b)(ii)

ATODLEN 1DIDDYMIADAU

RHAN 1

PennodTeitl ByrCwmpas y Diddymiad
1993 p.28Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

Yn adran 5—

  • yn is-adran (1), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term”, ac yn is-adran (2)(c), y geiriau “at a low rent for a particularly long term”.

Adran 6.

Yn adran 7(3), y geiriau “at a low rent”.

Adran 8.

Adran 8A.

Yn adran 10—

  • is-adrannau (2), (3) a (4A), a yn is-adran (6), y diffiniad o “qualifying tenant”.

Yn adran 13—

  • yn is-adran (2), is-baragraff (i) o baragraff (b) a'r geiriau sy'n dilyn y paragraff hwnnw, ac yn is-adran (3)(e), y geiriau “the following particulars”, y gair “namely” ac is-baragraffau (ii) a (iii).

1996 p.52Deddf Tai 1996

Adran 105(3).

Adran 111.

Yn Atodlen 9, paragraff 3 ac is-baragraffau 5(2) a (3).

Yn Atodlen 10, paragraff 4.

RHAN 2

PennodTeitl ByrCwmpas y Diddymiad
1993 p.28Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

Yn adran 39—

  • yn is-adran (2), paragraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, is-adrannau (2A) a (2B), is-adran nau (3)(c) a (d), ac is-adrannau (4A) a (5).

Adran 42(3)(b)(iii) a (iv) a (4).

Yn adran 45(5), y geiriau “and (b)”.

Adran 62(4).

yn adran 94—

  • yn is-adrannau (3) a (4), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term”, yn is-adran (12), y geiriau “which is at a low rent or for a particularly long term” a'r geiriau “, 8 and 8A”.

Yn Atodlen 13, ym mharagraff 1, y diffiniad o “the valuation date”.

1996 p.52Deddf Tai 1996

Adran 112.

Yn Atodlen 9, paragraff 4.

RHAN 3

PennodTeitl ByrCwmpas y Diddymiad
1967 p.88Deddf Diwygio Lesddaliad 1967

Yn adran 1—

  • yn is-adran (1), y geiriau “, occupying the house as his residence,” a'r geiriau “, and occupying as his residence,”, is-adran (2), a yn is-adran (3)(a) y geiriau “and occupied by”.

yn adran 1AA—

  • yn is-adran (1)(b), y geiriau “falls within subsection (2) below and”, ac is-adrannau (2) a (4).

Yn adran 2—

  • yn is-adran (3), y geiriau “and occupied by” a'r geiriau o “and are occupied” hyd at y diwedd, ac yn is-adran (4) y geiriau “or a subletting”.

Yn adran 3(3) y geiriau “, except section 1AA,”.

Yn adran 6—

  • yn is-adran (2), y geiriau “in respect of his occupation of the house”, ac yn is-adran (5) y geiriau “or statutory owners, as the case may be,” a'r geiriau “or them”.

Yn adran 7—

  • yn is-adran (1) y geiriau “while occupying it as his residence”, y geiriau “, and occupying the house as his residence” a pharagraff (b) a'r gair “and” o'i flaen, yn is-adran (4), y geiriau “while so occupying the house” a'r geiriau “occupying in right of the tenancy”, ac is-adran(6).

Yn adran 9—

  • yn is-adran (1), y geiriau “who reside in the house”,

  • yn is-adran (1A)(a) y geiriau “and where the tenancy has been extended under this Part of this Act that the tenancy will terminate on the original term date” acis-adran (1C)(a).

Yn adran 16—

  • is-adran (1)(a), yn is-adran (2), y geiriau “or occupied”, y geiriau “(a) or” a'r geiriau “the freehold or”,

  • yn is-adran (3), y geiriau “the freehold or” a'r amod,

  • ac yn is-adran (4) y geiriau “the freehold or”.

Yn adran 37—

  • yn is-adran (4) y geiriau “, except section 1AA,”, ac yn is-adran (5), y geiriau o'r dechrau hyd at “but”.

Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6, is-baragraff (1)(d) ac, yn is-baragraff (2) y geiriau “and (d)”.

Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 3(2)(d), y gair “assign”.

1980 p.51Deddf Tai 1980Yn Atodlen 21, paragraff 1.
1989 p.42.Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989Atodlen 11, paragraff 10.

Erthygl 2(b)

ATODLEN 2DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION

Rhyddfreiniad torfol gan denantiaid ar fflatiau:

1.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol—

(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu

(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

2.  Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.

3.  Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.

Prydlesi newydd i denantiaid fflatiau

4.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat—

(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu

(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honno

cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

Rhyddfreiniad ac estyn prydles ar gyfer tai ar lesddaliad

5.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dŷ—

(a)y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu

(b)y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honno

cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.

Rheolwyr a benodwyd gan dribiwnlys prisio lesddaliad

6.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987(5) gan adrannau 160 a 161 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.

Y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles

7.  Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas â Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.

Mae'r darpariaethau yn darparu ar gyfer newidiadau i'r canlynol:

(a)rhyddfreiniad torfol gan denantiaid fflatiau: adrannau 114 i 120, 125, 127 i 128;

(b)caffael prydlesi newydd i denantiaid fflatiau: adrannau 129 i 136;

(c)rhyddfreiniad ac estyn prydles gan denantiaid tai: adrannau 137 i 147;

(ch)ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliad i benodi rheolwr ar floc o fflatiau: adrannau 160 a 161; a

(d)y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles: adran 162.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau mewn Deddfau eraill.

(1)

2002 p.15. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y pŵer o dan yr adran hon ynghylch Cymru yn unig- gweler adran 181(4)(b) o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002.