Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002
Enwi, dehongli a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.
(2)
Yn y Gorchymyn hwn—
- ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad 19672;
- ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 19933;
ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 1 Ionawr 2003; ac
mae cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 ac at Atodlenni iddi.
(3)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn2.
Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn—
(a)
adrannau 114, 129, 132, 133, 137 a 142;
(b)
yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn—
(i)
adrannau 115 i 120, 125, 127, 128, 130, 131, 134 i 136, 138 i 141, 143 i 147, 160 i 162; a
(ii)
adran 180 i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diddymiadau hynny yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
(c)
adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 122, 151 to 153, 156, 164, 166, 167, 171, 174 ac Atodlen 12, i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.
ATODLEN 1DIDDYMIADAU
RHAN 1
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
|---|---|---|
Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 | Yn adran 5—
Adran 6. Yn adran 7(3), y geiriau “at a low rent”. Adran 8. Adran 8A. Yn adran 10—
Yn adran 13—
| |
Deddf Tai 1996 | Adran 105(3). Adran 111. Yn Atodlen 9, paragraff 3 ac is-baragraffau 5(2) a (3). Yn Atodlen 10, paragraff 4. |
RHAN 2
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
|---|---|---|
Deddf Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 | Yn adran 39—
Adran 42(3)(b)(iii) a (iv) a (4). Yn adran 45(5), y geiriau “and (b)”. Adran 62(4). yn adran 94—
Yn Atodlen 13, ym mharagraff 1, y diffiniad o “the valuation date”. | |
Deddf Tai 1996 | Adran 112. Yn Atodlen 9, paragraff 4. |
RHAN 3
Pennod | Teitl Byr | Cwmpas y Diddymiad |
|---|---|---|
Deddf Diwygio Lesddaliad 1967 | Yn adran 1—
yn adran 1AA—
Yn adran 2—
Yn adran 3(3) y geiriau “, except section 1AA,”. Yn adran 6—
Yn adran 7—
Yn adran 9—
Yn adran 16—
Yn adran 37—
Yn Atodlen 3, ym mharagraff 6, is-baragraff (1)(d) ac, yn is-baragraff (2) y geiriau “and (d)”. Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 3(2)(d), y gair “assign”. | |
Deddf Tai 1980 | Yn Atodlen 21, paragraff 1. | |
Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 | Atodlen 11, paragraff 10. |
ATODLEN 2DARPARIAETHAU TROSIANNOL AC ARBEDION
Rhyddfreiniad torfol gan denantiaid ar fflatiau:
1.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 115 i 120, 125 a 127 i 128 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad torfol—
(a)
y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 13 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)
y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf honno cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
2.
Hyd nes y daw adrannau 121 i 124 i rym, mewn achos lle nad oes ond dau denant cymwys o fflatiau a gynhwysir yn yr adeiladau, ni chaiff adran 13(2)(b) o Ddeddf 1993 fel y'i diwygiwyd gan adran 119 ei bodloni oni bydd y ddau denant yn denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
3.
Bydd is-baragraff (2A) o baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1993 a fewnosodwyd gan adran 128, hyd nes y dygir adrannau 121 i 124 i rym, yn cael effaith fel pe bai'r cyfeiriad at aelodau sy'n cyfranogi yn gyfeiriad at denantiaid sy'n cyfranogi yn ôl y diffiniad o “participating tenants” yn adran 14 o'r Ddeddf honNo.
Prydlesi newydd i denantiaid fflatiau
4.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1993 gan adrannau 130, 131 a 134 i 136, y diddymiadau o adrannau 5, 7, 8 ac 8A o'r Ddeddf honno yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn a'r diddymiadau yn Rhan 2 o'r Atodlen honno yn cael effaith mewn perthynas â chais am brydles newydd o fflat—
(a)
y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 42 o Ddeddf 1993 mewn perthynas ag ef; neu
(b)
y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 50 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
Rhyddfreiniad ac estyn prydles ar gyfer tai ar lesddaliad
5.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1967 gan adrannau 138 i 141 ac adrannau 143 i 147 a'r diddymiadau yn Rhan 3 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, yn cael effaith mewn perthynas â chais am ryddfreiniad neu brydles estynedig o dŷ—
(a)
y rhoddwyd hysbysiad o dan adran 8 neu 14 o Ddeddf 1997 mewn perthynas ag ef; neu
(b)
y gwnaed cais am orchymyn o dan adran 27 o'r Ddeddf honno
cyn y dyddiad cychwyn mewn perthynas ag ef.
Rheolwyr a benodwyd gan dribiwnlys prisio lesddaliad
6.
Y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles
7.
Ni fydd y diwygiadau a wnaed i Ddeddf Landlord a Thenant 1987 gan adran 162 yn cael effaith mewn perthynas â chais a wnaed o dan adran 35 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 cyn y dyddiad cychwyn.
Mae'r Gorchymyn ar 1 Ionawr 2003 yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 mewn perthynas â Chymru, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2.
Mae'r darpariaethau yn darparu ar gyfer newidiadau i'r canlynol:
rhyddfreiniad torfol gan denantiaid fflatiau: adrannau 114 i 120, 125, 127 i 128;
caffael prydlesi newydd i denantiaid fflatiau: adrannau 129 i 136;
rhyddfreiniad ac estyn prydles gan denantiaid tai: adrannau 137 i 147;
ceisiadau i dribiwnlys prisio lesddaliad i benodi rheolwr ar floc o fflatiau: adrannau 160 a 161; a
y seiliau dros wneud cais i amrywio prydles: adran 162.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau mewn Deddfau eraill.