xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3012 (Cy 284) (C.96)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002

Wedi'i wneud

4 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

(1)

2002 p.15. Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y pŵer o dan yr adran hon ynghylch Cymru yn unig- gweler adran 181(4)(b) o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002.