- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid yw'r nodyn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/15/EC ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â bwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau maethol neilltuol (ceir diffiniad o “bwyd DMN dynodedig” yn rheoliad 2(1) sy'n eithrio fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc) pan fo sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau canlynol wedi cael ei ychwanegu at y bwyd hwnnw at ddiben maethol penodol: fitaminau, mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau, colin ac inositol. Mae'r Rheoliadau yn gwahardd gwerthu bwydydd o'r fath oni bai bod y sylwedd wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn naill ai Atodlen 1 neu 2. Rhaid bodloni meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â phurdeb ar gyfer y sylwedd. (Rheoliad 3(1) i (3)).
3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gosod cyfyngiadau cyffredinol ar werthu bwydydd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylweddau at ddibenion maethol penodol wrth eu cyhyrchu (rheoliad 3(4)); ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr gyflewni gwybodaeth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny er mwyn gwirio bod y safonau hynny wedi'u bodloni (rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd y gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr rhag gwerthu bwydydd DMN dynodedig penodol y mae L-tryptoffan wedi cael ei ychwanegu atynt at ddiben maethol penodol, oni bai bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei hysbysu ymlaen llaw cyn bod bwyd o'r math neilltuol hwnnw yn cael ei farchnata am y tro cyntaf (rheoliad 5).
4. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 6); creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 7) ac yn cymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9). Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnig amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol bwydydd (rheoliad 8).
5. Mae'r Rheoliadau hefyd yn datgymhwyso'r gwaharddiadau yn Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990 (o safbwynt eu cymhwyso mewn perthynas â Chymru) i'r graddau y maent yn gwrthdaro â Chyfarwyddeb 2001/15/EC, Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilyn ymlaen ac Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC (OJ Rhif L49, 28.2.96, t.17) ar fwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (rheoliad 10).
6. Paratowyd arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: