(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (“Rheoliadau 1999”) er mwyn galluogi statws athro cymwysedig i gael ei ddyfarnu i athrawon penodol mewn ysgolion annibynnol neu athrawon addysg bellach penodol sy'n cael eu cyflogi mewn sefydliadau addysg bellach neu fel hyfforddwyr mewn ysgolion.
O dan y Rheoliadau diwygiedig, caniateir yn awr i athro gael ei gymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw'n cael ei gyflogi ar hyn o bryd fel athro mewn ysgol annibynnol, os yw wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau ar gyfer statws athro cymwysedig ac yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn y Rheoliadau, ar yr amod ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn ysgol annibynnol cyn 1 Medi 1989. Yn fras, y cymwysterau penodedig yw graddau a chymwysterau eraill a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Ionawr 1974 a graddau a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion dyfarnu statws athro cymwysedig a gafwyd cyn 1 Medi 1989. Gellir dyfarnu statws athro cymwysedig i athrawon o'r fath yn unol ag argymhelliad pennaeth neu benadur ysgol annibynnol lle maent yn cael eu cyflogi, neu yn achos pennaeth neu benadur ysgol annibynnol, yn unol ag argymhelliad cadeirydd corff llywodraethu'r ysgol, neu os nad oes un, perchennog yr ysgol — gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 10 a 12—19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999).
O dan y Rheoliadau diwygiedig caniateir yn awr i athrawon addysg bellach gael eu cymeradwyo i gael statws athro cymwysedig os yw amodau penodol yn cael eu bodloni. Yr amodau hynny yw bod yr athro yn cael ei gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach neu fel hyfforddwr mewn ysgol, ei fod wedi'i asesu fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig, ei fod yn dal un o'r cymwysterau a bennir yn Rhan II o Atodlen 3 neu radd, ei fod wedi'i gyflogi fel athro mewn sefydliad addysg bellach cyn 1 Medi 1989, ei fod yn dal Tystysgrif mewn Addysg neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion, a bod ganddo ddigon o brofiad addysgu ym marn y corff argymell i allu addysgu disgyblion 14—19 oed — gweler rheoliadau 5 a 6 (sy'n mewnosod paragraffau 11 a 12—19 newydd yn Atodlen 3 i Reoliadau 1999).