(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i awdurdodau lleol lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithredol (y mae swyddogaethau penodol yr awdurdod yn gyfrifoldeb gweithrediaeth o danynt) neu, yn achos awdurodau penodol, gweithredu trefniadau amgen. Yn achos y trefniadau gweithredol, rhaid i weithrediaeth yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11 o'r Ddeddf honno.

Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod lleol, sy'n gweithredu trefniadau gweithredol neu amgen, i lunio cynigion i newid y trefniadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth iddo lunio cynigion, ystyried sut y gall y cynigion fod o gymorth wrth sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd mae ei swyddogaethau yn cael eu harfer, gan dalu sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeitholrwydd.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid cael cydsyniad y maer, os bydd awdurdod lleol sydd â maer etholedig yn bwriadu newid ei drefniadau gweithredol, oni bai bod y cynigion ond yn ymwneud â newid gweithrediad neu swyddogaethau pwyllgor gorolygu a chraffu neu is-bwyllgor o'r math hwn o bwyllgor.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cael cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn achosion penodol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol cael penderfyniad gan awdurdod lleol er mwyn i'r awdurdod hwnnw weithredu trefniadau gwahanol.

Mae rheoliad 8 yn darparu i gopïau o ddogfen sy'n nodi'r darpariaethau ar gyfer trefniadau gwahanol fod ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol.