(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 drwy amnewid Atodlen newydd. Mae'r Atodlen newydd yn ei gwneud yn eglur mai bwriad Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad yw galluogi y rheiny sydd ag adnoddau ariannol cyfyngedig i fynd ar gyrsiau addysg bellach neu addysg uwch drwy ddarparu cymorth ariannol tuag at gost llyfrau, cyfarpar, teithio neu ofal plant yr eir iddo mewn cysylltiad รข mynychu cwrs o'r fath.