Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau'r Rhestr Atodol”) sy'n darparu i restr atodol gael ei chadw gan Awdurdodau Iechyd yn unol â darpariaethau adran 43D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) ac sy'n diwygio ymhellach Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 (“y Rheoliadau GMC”) sy'n rheoleiddio'r amodau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol gan feddygon o dan Ddeddf 1977. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“y Rheoliadau GDC”) sy'n rheoleiddio'r amodau ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol gan ddeintyddion o dan Ddeddf 1977 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 sy'n rheoleiddio'r amodau ar gyfer darparu gwasanaethau offthalmig gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr o dan Ddeddf 1977.
Diwygiwyd y Rheoliadau GMC, y Rheoliadau GDC a'r Rheoliadau GOC yn ddiweddar gan Offerynnau Statudol 2002/1896 (Cy. 197), 2002/1881 (Cy. 190) a 2002/1883 (Cy. 192) yn y drefn honNo. Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau teipograffyddol yn y Rheoliadau GMC, GDC a GOC a gyflwynwyd o ganlyniad i'r offerynnau diwygio ac mae hefyd yn unioni anghysondebau yn y testun dwyieithog.
Caiff Rheoliadau'r Rhestr Atodol eu diwygio yn yr un modd.