(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“Rheoliadau 1996”) sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu ar faint o grant adnewyddu a grant cyfleusterau i'r anabl a all gael ei dalu gan yr awdurdodau tai lleol i berchen-feddianwyr a thenantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r diwygiadau gan fwyaf yn dilyn newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971) y seilir y prawf moddion arnynt.
Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 1996 er mwyn dileu'r gwrthdaro anfwriadol rhwng rheoliadau 8 a 9 lle cafodd plentyn neu berson ifanc ei faethu.
Mae rheoliad 5 yn cynyddu'r symiau a bennir yn rheoliad 10 o Reoliadau 1996 a thrwy hynny yn cynyddu'r swm cymwysadwy (sydd yn rhannol yn penderfynu swm y grant sy'n daladwy).
Mae rheoliad 6 yn cynyddu'r lluosyddion yn rheoliad 12 o Reoliadau 1996.
Mae rheoliad 7 yn cynyddu swm y cyfalaf, y gall plentyn neu berson ifanc ei gael heb i'r symiau a benderfynir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 1996 beidio â bod yn gymwys.
Mae rheoliad 8 yn cynyddu'r swm y gellir ei ddidynnu o enillion wythnosol mewn perthynas â thaliadau am ofal plant.
Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1996 i ddarparu bod menyw ar seibiant mamolaeth yn cael ei thrin fel pe bai mewn gwaith am dâl a thrwy hynny'n galluogi i ffioedd gofal plant perthnasol a delir gael eu didynnu o enillion wythnosol a benderfynir yn unol â rheoliad 18 o Reoliadau 1996. Nid ymdrinnir ag unrhyw ffioedd gofal plant a dynnir mewn perthynas â'r plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo fel ffioedd gofal plant perthnasol.
Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 31 (incwm tybiannol) o Reoliadau 1996 ac mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 38 (cyfalaf tybiannol) o Reoliadau 1996 i gymryd ystyriaeth o'r rhaglenni a elwir “Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50” a “Chyfnod Gweithgaredd Dwys”.
Mae rheoliadau 12, 13 a 14 yn gweud diwygiadau amrywiol i reoliadau ynghylch myfyrwyr gan gynnwys diwygiadau yn dilyn sefydlu y Cyngor Dysgu a Sgiliau a Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant.
Mae rheoliad 15 yn uwchraddio'r symiau a'r premiymau cymwysadwy yn Atodlen 1 i Reoliadau 1996 ac mae'n ychwanegu premiwm sy'n daladwy i bersonau penodol sydd wedi peidio â bod â hawl i gael lwfans profedigaeth.
Mae rheoliad 16 yn ychwanegu eitemau at y rhestr o symiau sydd i gael eu hanwybyddu wrth benderfynu incwm heblaw enillion, sef taliadau sy'n ymwneud â thaliadau tai disgresiynol, £15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw neu mam weddw. Gwneir diwygiadau hefyd i ddarpariaethau presennol yn dilyn newidiadau amrywiol i gynlluniau'r fargen newydd a sefydlu ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae rheoliad 17 hefyd yn ychwanegu eitemau at y rhestr o symiau sydd i gael eu hanwybyddu fel cyfalaf, sef taliadau sy'n ymwneud â thaliadau tai disgresiynol, grant hyfforddi sy'n daladwy o dan Gynllun Credyd Cyflogaeth Dros 50 y Fargen Newydd a thaliadau i dalu iawn i bersonau a ddioddefodd golled yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gwneir diwygiadau hefyd i ddarpariaeth bresennol yn dilyn newidiadau i gynlluniau'r Fargen Newydd.