(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi o dan ddarpariaethau penodedig neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny i adennill ei gostau mewn cysylltiad â chynnal ymchwiliad o dan rai deddfiadau, sef:

(a)

Deddf Llywodraeth Leol 1972;

(b)

Deddf Rheoleiddio Traffig 1984; ac

(c)

Deddf Traenio Tir 1991.

Maent yn pennu swm safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r ymchwiliad yn eistedd neu y mae'r person sydd wedi'i benodi i'w gynnal wrthi'n gwneud gwaith arall mewn cysylltiad ag ef. £566 yw'r swm os yw'r ymchwiliad yn agor ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym (29 Tachwedd 2002) neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2003 a £645 os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.