(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339) (Cy. 217) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am symudiad gwartheg.
Effaith y diwygio sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau fydd lleihau'r cyfnod y mae'n ofynnol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad gwartheg o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â'r hyn sy'n ofynnol o dan ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1).
Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn.