xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'i wneud
7 Hydref 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38(1), 42(3) a (4)(c), (d) ac (e)(iii) a (iv) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf ”(“the Act”) yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. 10 Hydref 2002 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
7 Hydref 2002
Erthygl 2
Darpariaethau'r Ddeddf | Y Pwnc |
---|---|
Adran 6 | Byrddau Iechyd Lleol |
Adran 9 | Cyllido Byrddau Iechyd Lleol |
Adran 10 | Gwariant cyrff GIG |
Adran 23 | Cydweithio â'r gwasanaeth carchardai |
Adran 24 | Strategaethau Iechyd a Llesiant yng Nghymru |
Adran 37 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 8 ac Atodlen 9 a bennir isod:— | Mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau |
Yn Atodlen 8— Paragraff 1; Paragraff 2; Paragraff 3; Paragraff 4(1),(2)(b) ac (c); Paragraff 8; Paragraff 9; Paragraff 10; Paragraff 11; Paragraff 18; Paragraff 19; Paragraff 20; Paragraff 21; Paragraff 22; Paragraff 23; Paragraff 24; Paragraff 25; Paragraff 26; Paragraff 27; Paragraff 30; Paragraff 31; Paragraff 32; Paragraff 33; Paragraff 34; Paragraff 36; Paragraff 37. | |
Yn Atodlen 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, diddymu:— | |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (C.49): Yn adran 22(1A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (c); adran 28(A)(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a); adran 29B(3), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b); yn adran 33(1A)(b), y geiriau “for areas in Wales”; yn adran 44(2), y geiriau “with the approval of the Health Authority”; adran 51(3), y gair (“and”) ar ddiwedd paragraff (bb); adran 97(6)(bb) ac (c) ac (8); adran 125, y gair “and” ar ddiwedd paragraff (bb); adran 126(4A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b) ac yn Atodlen 12A, ym mharagraff 4(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(1) y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a) ac ym mharagraff 7(3) “or Primary Care Trust”. | |
Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (C.46): Yn adran 2, yn is-adran (2)(a), y geiriau “whose areas are in Wales”. | |
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38): Yn Atodlen 5, ym mharagraff 20, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales” ac yn Atodlen 17 ym mharagraff 12, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales”. | |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49): Yn adran 97D(1) (b), y geiriau “apart from subsection (5A)”. | |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19): Yn adran 12(4), y geiriau ar ôl paragraff (b). | |
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19): Yn atodlen 10, paragraff 11(4). | |
Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17): Adran 1 ac yn Atodlen 1, paragraffau 32(b), 53 a 107(12)(b). | |
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46): Yn Atodlen 2, paragraffau 71(3), 73 a 75. | |
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38): Adran 148. | |
Yn Atodlen 4, paragraffau 5, 31(2) a 35. | |
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15): Adrannau 1(4) a (5), 3(3) (4) a 43(5) ac yn Atodlen 5, paragraff 5(12)(b). |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yng Ngorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n gwneud y canlynol:—
(a).galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu Byrddau Iechyd Lleol ac i roi swyddogaethau i'r Byrddau a fydd newydd eu sefydlu (adran 6);
(b).sefydlu mecanwaith ar gyfer cyllido Byrddau Iechyd Lleol a gosod dyletswyddau ariannol penodol mewn perthynas â therfynau gwariant ac adnoddau ar y Byrddau (adran 9);
(c).galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau mewn perthynas â statws, cyfansoddiad, aelodaeth a swyddogaethau atodol Byrddau Iechyd Lleol (Atodlen 4) ac yn gwneud newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes (Atodlen 5);
(ch).cadw'r trefniadau presennol ar gyfer cyllido cyrff GIG yng Nghymru nes y bydd Awdurdodau Iechyd Cymru yn cael eu diddymu, yn darparu ar gyfer diffinio gwariant Rhan 1 a Rhan 2 Byrddau Iechyd Lleol i adlewyrchu'r hyn sy'n gymwysadwy i'r Awdurdodau Iechyd a chaniatáu dosrannu'r gydnabyddiaeth y gellir ei phriodoli i gostau cyffuriau rhwng Byrddau Iechyd Lleol (adran 10);
(d).gofyn am gydweithio rhwng cyrff GIG a'r gwasanaeth carchardai gyda golwg ar sicrhau a chynnal iechyd carcharorion (adran 23);
(dd).gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u tir o fewn ardal yr awdurdod lleol i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol (adran 24);
(e).cychwyn mân ddiwygiadau a diddymiadau canyniadol (adran 37).