Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2304 (Cy. 229)) (y “prif Orchymyn”).

Y prif ddiwygiadau yw—

(a)dileu erthygl 5 o'r prif Orchymyn sy'n darparu y bydd yn anghyfreithlon yn gyffredinol i hela rhywogaethau penodol â chwn ac eithrio o dan awdurdod caniatâd a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; a

(b)amnewid erthygl 3(3)(dd) er mwyn darparu na fydd symudiadau hyrddod i unrhyw safle yn arwain at ofyniad segura yno (fel y cyfeirir ato yn erthygl 3(1)(b) o'r prif Orchymyn) ar yr amod bod yr hwrdd yn cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o le y cafodd ei symud iddo at ddibenion bridio a'i fod yn cael ei ynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei ddychweliad.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.