Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dirymu ac yn ailddeddfu (gyda rhai diwygiadau) Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1357 (Cy.133)). Mae'n rhoi ar waith y darpariaethau sy'n ymwneud â defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac yn darparu mesurau dros dro sy'n ymwneud â rheoli clefydau ar gyfer y cyfnod o 6 Medi 2002 hyd at 1 Chwefror 2003.
Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol (erthygl 3) a chadw cofnodion o symudiadau defaid a geifr a manylion eraill amdanynt (erthyglau 4 a 5).
Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i farcio defaid a geifr a anwyd yng Nghymru â Marc Tarddiad ac mae erthygl 8 yn gwahardd symud yr anifeiliaid o'u daliad geni heb Farc Tarddiad. Mae Erthygl 9 yn gwahardd amryw symudiadau cyffredinol defaid neu eifr oni bai eu bod wedi'u marcio â marciau adnabod penodedig.
Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer dodi uchafswm o 3 marc adnabod ar ddafad neu afr ran amlaf. Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddafad neu afr sydd wedi'i mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei marcio â Marc F o fewn 30 diwrnod.
Mae erthygl 12 yn darparu bod dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig yn cyd-fynd â defaid neu eifr pan fyddant yn cael eu symud, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.
Mae erthyglau 13 i 15 yn darparu ar gyfer gwaredu, amnewid ac ychwanegu tagiau clust a thatŵ s, ac yn gwahardd eu difwyNo. Mae erthygl 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos cofnodion i arolygydd ac mae erthygl 17 yn nodi darpariaethau mewn perthynas â marchnadoedd. Mae erthygl 18 yn darparu bod awdurdodau lleol yn gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
Mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi â dirwy.
Y prif newidiadau ers y Gorchymyn blaenorol yw—
diwygio'r dyddiad y mae effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003) (erthygl 1);
diwygio'r diffiniad o “canolfan gasglu” (“collecting centre”) er mwyn ei gysoni â darnau cysylltiedig eraill o ddeddfwriaeth (erthygl 2);
cynyddu uchafswm y tagiau y caniateir eu dodi ar anifail (erthygl 10);
gosod gofyniad ar geidwaid sy'n derbyn anifeiliaid newydd i hysbysu hynny i'r awdurdod lleol (erthygl 12); a
gosod gofyniad ar geidwaid anifeiliaid i amnewid marciau S a gollwyd ar yr amod bod manylion rhai gwreiddiol yn hysbys i'r ceidwad (erthygl 13).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.