Search Legislation

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dirymu ac yn ailddeddfu (gyda rhai diwygiadau) Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1357 (Cy.133)). Mae'n rhoi ar waith y darpariaethau sy'n ymwneud â defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac yn darparu mesurau dros dro sy'n ymwneud â rheoli clefydau ar gyfer y cyfnod o 6 Medi 2002 hyd at 1 Chwefror 2003.

Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol (erthygl 3) a chadw cofnodion o symudiadau defaid a geifr a manylion eraill amdanynt (erthyglau 4 a 5).

Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i farcio defaid a geifr a anwyd yng Nghymru â Marc Tarddiad ac mae erthygl 8 yn gwahardd symud yr anifeiliaid o'u daliad geni heb Farc Tarddiad. Mae Erthygl 9 yn gwahardd amryw symudiadau cyffredinol defaid neu eifr oni bai eu bod wedi'u marcio â marciau adnabod penodedig.

Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer dodi uchafswm o 3 marc adnabod ar ddafad neu afr ran amlaf. Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddafad neu afr sydd wedi'i mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei marcio â Marc F o fewn 30 diwrnod.

Mae erthygl 12 yn darparu bod dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig yn cyd-fynd â defaid neu eifr pan fyddant yn cael eu symud, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.

Mae erthyglau 13 i 15 yn darparu ar gyfer gwaredu, amnewid ac ychwanegu tagiau clust a thatŵ s, ac yn gwahardd eu difwyNo. Mae erthygl 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos cofnodion i arolygydd ac mae erthygl 17 yn nodi darpariaethau mewn perthynas â marchnadoedd. Mae erthygl 18 yn darparu bod awdurdodau lleol yn gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.

Mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi â dirwy.

Y prif newidiadau ers y Gorchymyn blaenorol yw—

(a)diwygio'r dyddiad y mae effaith y Gorchymyn yn darfod (o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003) (erthygl 1);

(b)diwygio'r diffiniad o “canolfan gasglu” (“collecting centre”) er mwyn ei gysoni â darnau cysylltiedig eraill o ddeddfwriaeth (erthygl 2);

(c)cynyddu uchafswm y tagiau y caniateir eu dodi ar anifail (erthygl 10);

(ch)gosod gofyniad ar geidwaid sy'n derbyn anifeiliaid newydd i hysbysu hynny i'r awdurdod lleol (erthygl 12); a

(d)gosod gofyniad ar geidwaid anifeiliaid i amnewid marciau S a gollwyd ar yr amod bod manylion rhai gwreiddiol yn hysbys i'r ceidwad (erthygl 13).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources