Symudiadau yn gyffredinol9.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4) ac erthyglau 8 a 10, rhaid i berson beidio â symud dafad neu afr os nad yw wedi'i farcio ag un neu ragor o'r canlynol—
(a)
Marc Tarddiad a rhif adnabod unigol;
(b)
Marc S sy'n dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono;
(c)
Marc S a rhif adnabod unigol;
(ch)
Marc F a rhif adnabod unigol;
(d)
Marc R yn dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono; neu
(dd)
Marc R a rhif adnabod unigol.
(2)
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys—
(a)
os yw'r anifail yn cael ei farcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) ac os yw'n cael ei symud o'r daliad y mae'r marc diadell neu'r marc gyr yn cyfeirio ato;
(b)
os yw'r anifail yn cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i ddaliad yng Nghymru;
(c)
os yw'r anifail yn cael ei symud o'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei farcio â Marc F;
(ch)
(d)
os yw'r anifail yn cael ei symud o ran o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru ac yn cael ei farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain;
(dd)
os oedd yr anifail cyn y dyddiad perthnasol wedi'i farcio yn unol naill ai—
(i)
â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 ac wedi'i farcio â rhif adnabod unigol;
(ii)
ag erthygl 9(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) 2002, fel y bo'n briodol;
(e)
os yw'r anifail wedi'i farcio â marc dros dro ac—
(i)
yn cael ei symud yn uniongyrchol i ladd-dy;
(ii)
yn cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda;
(iii)
yn cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu
(iv)
yn dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad (heblaw marchnad gigydda un-pwrpas) yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda;
(f)
os yw'r anifail yn cael ei symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;
(ff)
os yw'r anifail yn cael ei symud rhwng safleoedd mewn grŵ p meddiannaeth unigol;
(g)
os yw'r anifail yn dychwelyd i'r daliad y mae'n cael ei gadw arno o dir y mae gan y person hawl i bori drosto ar y cyd â pherchenogion eraill;
(ng)
os yw dafad wedi'i marcio â marc dros dro ac yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei chadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro; neu
(h)
os yw'r anifail yn cael ei symud o farchnad, ar yr amod bod yr anifail wedi'i farcio yn unol â gofynion y Gorchymyn hwn pan gafodd ei symud i'r farchnad honNo.
(3)
Rhaid peidio â symud anifail i sioe nac ohoni oni bai ei fod wedi'i farcio â rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd arno yr un pryd â'r rhif adnabod unigol.
(4)
Rhaid i berson beidio â symud anifail i ganolfan gynnull oni bai bod yr anifail wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol:
(i)
â Marc Tarddiad ac â rhif adnabod unigol;
(ii)
â Marc S ac â rhif adnabod unigol;
(iii)
â Marc F ac â rhif adnabod unigol;
(iv)
â marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;
(b)
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).
(5)
(a)
Rhaid i berson beidio â symud anifail i safle y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol—
(i)
â Marc Tarddiad sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, ac â rhif adnabod unigol;
(ii)
â Marc F sy'n cynnwys y llythrennau “UK”, ac â rhif adnabod unigol; neu
(iii)
â Marc X ac â rhif adnabod unigol a ddodwyd yr un pryd â'r Marc X; a
(b)
Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).