Uchafswm y marciau10.

(1)

Rhaid i berson beidio â dodi Marc S ar ddafad neu afr sydd eisoes yn dwyn tri marc yn cynnwys un neu ragor o'r marciau a ddisgrifir ym mharagraff 2.

(2)

Y marciau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw—

(a)

Marc Tarddiad, Marc S, Marc F neu Farc R;

(b)

marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;

(c)

marc a ddodwyd o dan ddeddfwriaeth mewn grym mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru;

(ch)

marc a ddodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC; neu

(d)

marc a ddodwyd o dan drwydded a roddwyd o dan erthygl 8 neu 31 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 19838.