(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283(Cy.34)(“y prif Orchymyn”) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134).
Mae'r Gorchymyn hwn—
(a)
yn cyfyngu'r categorïau o anifeiliaid y mae'r prif Orchymyn yn gymwys iddynt i gynnwys gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch yn unig.
(b)
yn diffinio “cyfarpar” at ddibenion y prif Orchymyn ac yn diwygio'r cyfeiriadau at “corlannau, clwydi a chyfarpar arall” yn unol â hynny.
(c)
yn lleihau'r cyfnodau cyfyngedig o 28 diwrnod i 27 diwrnod.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.