xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym rai ddarpariaethau penodol yn Rhan II o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“y Ddeddf”) ar 14 Awst 2002, mewn perthynas â Chymru, sef:
(a)adran 154(6), sy'n darparu bod adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965 (grantiau at dreth a godir ar danwydd bysiau) ac adran 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol anghofrestredig ac annibynadwy: gostyngiad mewn grant treth danwydd) i beidio â chael effaith; ac
(b)adran 274 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan II o Atodlen 31 (Diddymiadau a dirymiadau).