xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, wasanaethau bysiau a fydd, pan ddaw effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1992 i ben oherwydd dyfodiad i rym 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, yn gymwys at ddibenion:
(i)y consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000; a
(ii)darpariaethau Rhan IV o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol i deithwyr) sy'n ymwneud â chyfranogiad mewn cynlluniau consesiynau teithio, a threfniadau ad-dalu.