Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi isafswm maint ar gyfer glanio crancod heglog gwryw (Maia squinado) yng Nghymru (erthygl 3 (1)). Mae cychod pysgota tramor yn cael eu heithrio o'r isafswm maint hwn ar gyfer glanio crancod heglog yng Nghymru o gychod pysgota tramor (erthygl 3(2)). Mae cymeryd mesurau ar gyfer cadw a rheoli stociau o dan Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor 850/98 yn ddarostyngedig i amod fod y mesurau yn gymwys i bysgotwyr yr Aelod-wladwriaeth berthnasol yn unig.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau gorfodi pellach i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota Prydeinig yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru (erthygl 4).
Rhagnodir tramgwyddau a chosbau yn y drefn honno gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53).
Gwneir y Gorchymyn hwn gan ddibynnu ar Erthygl 46.1 o Reoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, p.1), ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn amddiffyn organebau morol bychan, sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddilyn rhai mesurau cenedlaethol penodol er mwyn cadw a rheoli stociau.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoliadol ar sail y D.U. gyfan. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.