(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i awdurdodi neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod perthnasol a bennir yn y Rheoliadau wneud cynllun sy'n darparu ar gyfer talu:
lwfans sylfaenol i gynghorwyr; a
lwfans presenoldeb i gynghorwyr; a
lwfans cyfrifoldeb arbennig i gynghorwyr â chyfrifoldebau arbennig.
Mae'r pwer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.
Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau o ran lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau awdurdodau perthnasol a ragnodir.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol (p'un a ydynt yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth yn unol â Deddf 2000 neu'n gweithredu trefniadau amgen yn unol ag adran 32(1) o Ddeddf 2000) ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru wneud cynllun ar gyfer talu lwfansau mewn perthynas â'r flwyddyn gyfredol a'r blynyddoedd dilynol.
Mae Rheoliad 3 yn rhagnodi'r cynghorau sir, y cynghorau bwrdeistref sirol a'r Parciau Cenedlaethol yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1) o Ddeddf 2000.
Mae Rheoliad 5 yn darparu os diddymir cynllun a wnaed o dan y rheoliadau hyn rhaid i awdurdod sicrhau bod cynllun pellach yn barod i fod yn effeithiol o ddyddiad unrhyw ddiddymiad o'r fath, tra bod Rheoliad 6 yn darparu y gall cynllun gael ei ddiwygio neu ei ddiddymu ar unrhyw adeg. Os diwygir cynllun gellir gwneud darpariaeth i'r hawl i lwfansau fod yn gymwys o ddechrau'r flwyddyn y gwneir unrhyw ddiwygiad ynddi.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â “lwfans sylfaenol” i gynghorwyr. Un “lwfans sylfaenol” yn unig fesul aelod fydd yn daladwy o dan y cynllun. Mae Rheoliad 8 yn rhoi disgresiwn i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer “lwfansau cyfrifoldeb arbennig”. Nodir y categorïau y gellir eu defnyddio i dalu “lwfansau arbennig” yn Rheoliad 8(1). Nid yw lwfansau o'r fath yn daladwy, yn rhinwedd Rheoliad 8(2), i fwy na hanner aelodau awdurdod (a gyfrifir drwy gyfeirio at gyfanswm y seddau ar y cyngor). Mae hefyd yn caniatáu i gynghorau ddarparu ar gyfer swm ychwanegol o ddeg y cant i ddirprwy arweinydd cabinet neu i ddirprwy gadeirydd bwrdd fel rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig.
Mae Rheoliad 9 yn rhoi disgresiwn i Awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu cynllun ar gyfer “lwfansau presenoldeb” i gynghorwyr mewn perthynas â “dyletswyddau a gymeradwywyd”.
Mae Rheoliad 10 yn darparu i gynllun, a wneir gan gyngor sir neu fwrdeistref sirol, gynnwys “lwfans gofal” i aelodau mewn perthynas â chostau trefnu ar gyfer gofalu am blant (pymtheg oed neu lai) neu bobl ddibynnol a dynnir wrth gyflawni dyletswyddau fel aelod.
Mae Rheoliad 11 yn darparu y bydd cynllun a wneir o dan Ran II yn darparu i unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd gael taliad drwy “lwfans colled ariannol” nad yw'n fwy na swm unrhyw golled enillion a gafwyd neu gostau ychwanegol a dynnwyd yn ei rôl fel aelod.
Mae Rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod cynllun o dan Ran II yn pennu swm y “lwfans sylfaenol” neu ddull i ganfod y swm hwnnw a'r dull i ganfod hefyd unrhyw “lwfans cyfrifoldeb arbennig” (neu symiau gwahanol sy'n daladwy mewn perthynas â chyfrifoldebau arbennig). Mae Rheoliad 12 hefyd yn rhoi disgresiwn i awdurdodau a fyddant yn cynnwys darpariaeth yn y cynllun a wneir o dan Ran II ar gyfer addasiad blynyddol ar y lwfansau drwy gyfeirio at y mynegai hwnnw y gall yr awdurdod ei bennu.
Rhaid i gynllun o dan Ran II gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y cynllun yn rhinwedd Rheoliad 13 a chaiff, o dan Reoliad 14 nodi'r amserau ar gyfer talu'r lwfansau (a all fod yn wahanol ar gyfer lwfansau gwahanol).
Mae Rheoliad 15 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau sydd i'w penderfynu bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na chânt fod yn fwy na'r graddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth i gael eu gwneud ar sail “wirioneddol” a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan yr awdurdod.
Mae Rheoliad 16 yn darparu bod datganiad yn cyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) pan wneir taliadau o dan gynllun o dan Ran II o'r Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 17 yn ymwneud â lwfansau a wneir i aelodau panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Mae'n ofynnol i daliadau o'r fath gael eu talu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y mae'r panel yn berthnasol iddynt.
Mae Rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw gynllun a wneir odanynt, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr mewn llywodraeth leol. Gellir cael copïau wrth dalu ffi resymol i'r awdurdod.
Yn unol â Rheoliad 19 rhaid i unrhyw gynllun a wneir o dan y Rheoliadau hyn gael cyhoeddusrwydd yn ardal yr awdurdod cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud. Cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae cynllun yn berthnasol iddi, rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y cynllun mewn perthynas â lwfansau sylfaenol, lwfansau cyfrifoldeb arbennig, lwfansau presenoldebau a lwfansau gofal.
Mae Rheoliad 20 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau'r Aelodau) 1991 (“Rheoliadau 1991”) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2002. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn diddymir Rheoliadau 1991. Mae hefyd yn eithrio cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol rhag effeithiau adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Addesir adran 176 (Talu costau ymweliadau swyddogol ac ymweliadau cwrteisi, a.y.y.b) o Ddeddf 1972 wrth ei chymhwyso i awdurdodau sir, awdurdodau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.