Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymestyn i Gymru yn unig ac sy'n diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau i Reoliadau Halogion mewn Bwyd 1997 (O.S. 1997/1499, fel y'i diwygiwyd) yn—
darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y'i diwygiwyd) (“Rheoliad y Comisiwn”); a
rhoi Cyfarwyddebau canlynol y Comisiwn ar waith—
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MPCD mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, fel y cafodd ei gywiro gan Benderfyniad y Comisiwn ar 4 Rhagfyr 2001 (OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34)),
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol lefelau ochratoxin A mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38), a
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol y lefelau ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44).
Mae'r Rheoliadau hyn—
yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol (rheoliad 8 a 9), yn darparu ei bod yn drosedd—
rhoi ar y farchnad rhai mathau o fwydydd os ydynt yn cynnwys unrhyw fath o halogyn a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a nodwyd (yn ddarostyngedig i ran-ddirymiad sy'n gymwys i rai mathau o letys a sbigoglys),
defnyddio bwydydd sy'n cynnwys halogion ar lefelau o'r fath fel cynhwysydd wrth gynhyr chu rhai bwydydd,
cymysgu bwydydd sy'n cydymffurfio â'r uchafsymiau y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd nad ydynt,
cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi'u bwriadu i'w bwyta'n uniongyrchol gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac y bwriedir eu didoli neu eu trin fel arall cyn iddynt gael eu bwyta, neu
dadwenwyno gan ddefnyddio triniaethau cemegol bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);
nodi'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
rhagnodi gofynion samplo a dadansoddi mewn perthynas â bwydydd sy'n ddarostyngedig i Reoliad y Comisiwn, ac wrth wneud hynny addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i'r graddau y mae'n gymwys i gymryd samplau o'r bwydydd dan sylw (rheoliad 5);
darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion wrth weithredu Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol bwydydd, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 6);
yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at y dibenion hynny (rheoliad 7);
gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 10); ac
diddymu Offerynnau a bennwyd (gan gynnwys Rheoliadau Halogion mewn Bwyd 1997) (rheoliad 11 a'r Atodlen).
Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.