Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“y prif Reoliadau”), sy'n rheoleiddio'r amodau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr yn darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) er mwyn gweithredu rhai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2002.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu rhai diffiniadau ychwanegol i reoliad 2 y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliadau 7A i 7D newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau er mwyn nodi'r amgylchiadau ychwanegol pan na all ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd dynnu eu henwau oddi ar y rhestr offthalmig, heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu rhesymau ychwanegol ar gyfer tynnu'n orfodol ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr.

Mae rheoliad 6 yn ychwanegu rheoliadau 9A i 9H newydd er mwyn rhoi effaith i adrannau 49F i 49R o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 yn amnewid rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau am fod y pŵer y mae'n ddibynnol arno, sef adran 49E o'r Ddeddf wedi'i diddymu yn y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Atodlen 5, paragraff 5. Yn hytrach gwneir darpariaethau newydd ar gyfer talu ymarferwyr sydd wedi'u hatal dros dro.

Mae rheoliad 6 hefyd yn mewnosod rheoliad 12B newydd yn y prif Reoliadau. Mae hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd hysbysu Awdurdod Iechyd os yw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys ar restr Awdurdod Iechyd arall.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth Ymarferwyr Cyffredinol).

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu Atodlen 1A i'r prif Reoliadau (gwybodaeth ac ymgymeriadau sydd i'w rhoi wrth wneud cais i gynnwys enw ar y rhestr offthalmig). Mae hyn yn darparu ar gyfer darparu gwybodaeth benodedig. Mae angen ymgymeriad y bydd yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth ragnodedig i'r Awdurdod Iechyd unwaith y byddant wedi'u cynnwys. Mae angen hefyd i'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd gydsynio i gais gan yr Awdurdod Iechyd yn gofyn i gorff rheoliadol yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd i roi gwybodaeth benodedig i'r Awdurdod Iechyd.