(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 mewn perthynas â Chymru er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol bod datganiad ysgrifenedig bod y cyfarpar a gosodiad y mae'r cais yn perthyn iddynt wedi'u cynllunio fel y byddant, ar ôl cael eu hadeiladu neu'u hosod, yn gweithio yn y fath fodd ag i gydymffurfio'n llawn â gofynion canllawiau'r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydredd Anïoneiddio ar ddatguddio'r cyhoedd i amleddau radio yn cyd-fynd â phob cais i awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu sy'n cynnwys adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu er mwyn gweithredu system delathrebu.
Mae llawer ffurf ar ddatblygu sy'n perthyn i gyfarpar telathrebu yn mwynhau hawliau datblygu a ganiateir o dan Ran 24 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Trwy ddiwygiad i'r Gorchymyn hwnnw, mae gofyniad yn cael ei gyflwyno hefyd fod datganiad tebyg yn cyd-fynd â cheisiadau i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru am ddyfarniadau ynghylch a yw cymeradwyaeth o flaen llaw yn ofynnol o dan y Gorchymyn hwnnw lle bo gofyn am gais felly mewn cysylltiad â datblygu sy'n ymwneud ag adeiladu neu osod un neu fwy o antenâu.