Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (“y Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd”), sy'n dynodi dosbarthiadau at ddibenion adran 55(2)(f) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Nid yw newid defnydd o adeilad neu dir arall yn golygu datblygu at ddibenion y Ddeddf os yw'r defnydd newydd a'r defnydd blaenorol, ill dau, o fewn yr un dosbarth penodedig.

Y diwygiad i'r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd yw eithrio o Ddosbarth B8 (Storio neu ddosbarthu) ddefnydd o adeilad neu dir arall ar gyfer storio neu fel canolfan ddosbarthu ar gyfer deunydd ymbelydrol neu wastraff ymbelydrol (fel y'u diffinnir yn Neddf Sylweddau Ymbelydrol 1993), os yw'r adeilad neu'r tir arall wedi ei leoli yng Nghymru.