Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Maent yn rhagnodi ffioedd diwygiedig o ran materion sy'n codi o dan Reoliadau Hadau Grawn 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Betys 1993 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Hadau Llysiau 1993 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) 1985 (fel y'u diwygiwyd) (rheoliad 2).
Rhestrir y materion y rhagnodir y ffioedd diwygiedig mewn perthynas â hwy yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, ac argreffir y ffioedd a oedd yn daladwy cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym mewn llythrennau italig wrth ochr y ffioedd diwygiedig.
Cynyddwyd yr holl ffioedd 5 y cant wedi'i dalgrynnu i'r pum ceiniog agosaf ac eithrio yn achos y ffi flynyddol ar gyfer Gorsafoedd Trwyddedig ar gyfer Profi Hadau y gostyngwyd £335 arni.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.