Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu ac yn ailddedfu, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) 1999 o ran awdurdodau addysg lleol (AALlau) yng Nghymru.

Mae'r newidiadau wedi cael eu gwneud o ganlyniad i gyflywno Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun hwnnw, mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ad-dalu gwariant yr AALlau ar dalu'r dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol hynny o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad, i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac sy'n bodloni'r amodau ynghylch adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun.

Mae'r pŵer a roddwyd i AALlau gan y rheoliadau blaenorol i ddyfarnu ysgoloriaeth, gwobr, bwrsariaeth neu ddyfarndal arall i “berson cymwys”, hynny yw, person dros oed addysg ôl-orfodol, yn parhau. Gellir rhoi dyfarndal o'r fath er mwyn galluogi person cymwys i gymryd mantais o gyfleusterau addysgol penodol sydd ar gael iddo, sef addysg uwchradd a roddir mewn ysgol, neu gwrs o addysg bellach neu addysg uwch. Gwaharddodd y rheoliadau blaenorol ddyfarndaliadau i bobl sy'n gymwys i gymorth ariannol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac mae'r gwaharddiad hwn yn parhau, ond y mae wedi ei ddatgymhwyso mewn perthynas â Grantiau Dysgu'r Cynulliad.

Roedd y rheoliadau blaenorol yn ei gwneud yn ofynnol i bob AALl wneud penderfyniad, o ran pob blwyddyn ariannol, a fyddai'n cymhwyso ei bŵ er i wneud dyfandaliadau addysg ôl-orfodol yn y flwyddyn honno, ac os felly, i ba raddau. Mae'r gofyniad hwnnw yn parhau fel y mae'r gofyniad i ddod ag unrhyw bederfyniad o'r fath at sylw'r bobl y mae'n debygol y bydd yn effeithio arnynt. Nid yw'r penderfyniad yn effeithio ar unrhyw rwymedigaeth sydd gan yr AALl hwnnw i wneud taliadau o dan ddyfarndaliadau a roddir cyn iddo gymryd effaith. Ond nid oes gan AALlau ddim pwerau i wneud penderfyniad o'r fath o ran Grantiau Dysgu'r Cynulliad.