Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) drwy:
ailddatgan a diwygio'r meini prawf i geiswyr fod yn gymwys i dderbyn taliad o dan y cynllun er mwyn i geisiwyr fod yn gymwys i dderbyn taliadau os oes ganddynt dir porthiant yn naill ai Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (“tiriogaeth trawsffiniol”) sef tir sy'n caniatáu i'r ceisydd hwnnw yr hawl i lwfans ar gyfer ardal llai ffafriol yn y diriogaeth drawsffiniol honno, er bod gan y ceiswyr hynny lai na'r lleiafswm gofynnol o 6 hectar o dir porthiant cymwys yng Nghymru (rheoliad 5).
ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6).
rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).
darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8).
darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9).
darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12).
darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16).
darparu fformwla “rhwyd achub” newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)).
darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Tir Mynydd (Daliadau Trawsffiniol) (Cymru) 2001 yn rhinwedd, yn gyntaf, cynnwys diffiniad o “arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano” yn y prif reoliadau ac, yn ail, trosglwyddo swyddogaethau o'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.