Dyddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3

4.—(1Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn—

(a)ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn llawnamser; a

(b)pedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn rhan-amser.

(2Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw—

(a)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 1, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(b)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 2, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 2 neu swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;

(c)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 3, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arNo.

(3Y “cwrs perthnasol” y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw—

(a)at ddibenion paragraff (1), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu'n athrawes berthnasol gyntaf a chael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3);

(b)at ddibenion paragraff (2)(a), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 1 y gallai fod yn rhesymol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu athrawes berthnasol;

(c)at ddibenion paragraff (2)(b), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 2 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu i'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 2 neu swydd cam 3 am y tro cyntaf; a

(ch)at ddibenion paragraff (2)(c), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gall fod yn rheysmol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 3 am y tro cyntaf.

(4Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol—

(a)unrhyw gyfnodau pryd mae'r athro neu'r athrawes yn absennol oherwydd salwch, seibiant mamolaeth neu seibiant rhieiniol ; a

(b)unrhyw gyfnodau eraill y mae o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol i'w gadael allan o'r cyfrif.