Athrawon perthnasol i feddu ar gymwysterau3.
(1)
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn—
(a)
athro neu athrawes berthnasol (mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);
(b)
athro neu athrawes—
(i)
yng Nghymru neu Loegr, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg leol, coleg technoleg dinasol, coleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau neu academi ddinasol neu, cyn 1 Medi 1999, ysgol a gynhelid â grant neu ysgol arbennig a gynhelid â grant;
(ii)
yn yr Alban, ysgol a gynorthwyir â grant neu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;
(iii)
yng Ngogledd Iwerddon, ysgol a reolir o dan awdurdod bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol, ysgol a gynhelir, ysgol integredig a gynhelir â grant neu ysgol ramadeg wirfoddol;
(c)
(ch)
athro neu athrawes—
(i)
yn yr Alban, mewn coleg addysg bellach,
(ii)
(d)
athro neu athrawes mewn sefydliad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sy'n darparu addysg sy'n gyfwerth ag addysg uwchradd neu addysg bellach ac sy'n rhan o system gyhoeddus addysg y wladwriaeth neu'r diriogaeth dan sylw.
(2)
Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—
(a)
cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)
Tystysgrif Addysg;
(c)
cymhwyster addysgu AB cam 3; neu
(ch)
cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.
(3)
Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—
(a)
cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)
Tystysgrif Addysg;
(c)
cymhwyster addysgu AB cam 3; neu
(ch)
cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.
(4)
Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal—
(a)
cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)
Tystysgrif Addysg;
(c)
cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu
(ch)
cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).
(5)
At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)
mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a
(b)
caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.