1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “athro neu athrawes berthnasol” (“relevant teacher”) yw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes (pa un a ddisgrifir y swydd y cyflogir y person ynddi yn swydd addysgu ai peidio) mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach ac eithrio—
person a gyflogir i addysgu cyrsiau addysg uwch yn unig, a
person nad addysgu yw ei brif alwedigaeth neu broffesiwn ac a gyflogir gan y coleg ar sail dros dro neu achlysurol i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar arferion diwydiannol, masnachol neu broffesiynol cyfredol;
ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 3” (“stage 3 FE teaching qualification”) yw cymhwyster y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;
ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 2” (“stage 2 FE teaching qualification”) yw cam canol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;
ystyr “cymhwyster addysgu AB cam 1” (“stage 1 FE teaching qualification”) yw cam rhagarweiniol y cymhwyster addysgu AB cam 3 y pennir ei safonau gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn;
ystyr “cymhwyster Rheoliadau 1999” (“1999 Regulations qualification”) yw cymhwyster sy'n rhoi i berson statws athro neu athrawes gymwysedig o fewn ystyr rheoliad 10 o Reoliadau 1999;
ysytyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999(1);
ystyr “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” (“institution within the further education sector”) yw sefydliad o fewn ystyr “institutions within the further education sector” yn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(2);
ystyr “swydd cam 3” (“stage 3 post”) yw swydd addysgu y mae cymhwyster addysgu AB cam 3, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;
ystyr “swydd cam 2” (“stage 2 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 2, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;
ystyr “swydd cam 1” (“stage 1 post”) yw swydd addysgu rhan-amser y mae cymhwyster addysgu AB cam 1, ym marn y sefydliad o fewn y sector addysg bellach sy'n cyflogi'r athro neu'r athrawes, yn gymhwyster addas ar ei chyfer;
ystyr “Tystysgrif Addysg” (“Certificate of Education”) yw cymhwyster o'r enw hwnnw ac a ddyfarnwyd cyn 1 Awst 2002 gan sefydliad yn y sector addysg uwch.
3.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bob person sy'n mynd yn athro neu athrawes berthnasol ar neu wedi 1 Gorffennaf 2002 mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ac na fu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw yn—
(a)athro neu athrawes berthnasol (mewn sefydliad o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr);
(b)athro neu athrawes—
(i)yng Nghymru neu Loegr, mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod addysg leol, coleg technoleg dinasol, coleg dinasol ar gyfer technoleg y celfyddydau neu academi ddinasol neu, cyn 1 Medi 1999, ysgol a gynhelid â grant neu ysgol arbennig a gynhelid â grant;
(ii)yn yr Alban, ysgol a gynorthwyir â grant neu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;
(iii)yng Ngogledd Iwerddon, ysgol a reolir o dan awdurdod bwrdd addysg a llyfrgelloedd lleol, ysgol a gynhelir, ysgol integredig a gynhelir â grant neu ysgol ramadeg wirfoddol;
(c)athro neu athrawes mewn sefydliad (yng Nghymru neu Loegr) a oedd, cyn 1 Ebrill 2001 yn sefydliad allanol o fewn ystyr “external institution” yn adran 6(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3);
(ch)athro neu athrawes—
(i)yn yr Alban, mewn coleg addysg bellach,
(ii)yng Ngogledd Iwerddon, mewn sefydliad addysg bellach o fewn ystyr “institution of further education” yng Ngorchymyn Addysg Bellach (Gogledd Iwerddon) 1997(4);
(d)athro neu athrawes mewn sefydliad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw sy'n darparu addysg sy'n gyfwerth ag addysg uwchradd neu addysg bellach ac sy'n rhan o system gyhoeddus addysg y wladwriaeth neu'r diriogaeth dan sylw.
(2) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac sydd ar unrhyw adeg yn cael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—
(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)Tystysgrif Addysg;
(c)cymhwyster addysgu AB cam 3; neu
(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.
(3) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser o dan gontract i weithio am gyfran benodol o'r cyfnod y cyflogir athro neu athrawes lawnmamser i weithio ynddo, erbyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(1) (os digwydd), ddal—
(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)Tystysgrif Addysg;
(c)cymhwyster addysgu AB cam 3; neu
(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 3.
(4) Rhaid i bob athro neu athrawes berthnasol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo neu iddi ac a gyflogir ar unrhyw adeg yn rhan-amser ac nad yw'n dod o fewn paragraff (3), cyn y dyddiad a benderfynir yn unol â rheoliad 4(2) (os digwydd), ddal—
(a)cymhwyster Rheoliadau 1999 neu awdurdodiad i addysgu yn unol â Rhan II neu Ran III o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;
(b)Tystysgrif Addysg;
(c)cymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, swydd cam 2 neu swydd cam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes); neu
(ch)cymhwyster cyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3 (gan ddibynnu pa un ai mewn swydd cam 1, cam 2 neu gam 3 y cyflogir yr athro neu'r athrawes).
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae cymhwyster yn gyfwerth â chymhwyster addysgu AB cam 1, cam 2 neu gam 3, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod o safon cywerth â, neu o safon uwch na, y cymhwysterau hynny ac os pennir ef gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a
(b)caiff person sy'n dal cymhwyster addysgu AB cam 3 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster addysgu AB cam 2 a chaiff person sy'n dal, neu sy'n cael ei drin fel petai'n dal, cymhwyster addysgu AB cam 2 ei drin fel petai hefyd yn dal cymhwyster cam 1.
4.—(1) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(2) a (3) yw'r dyddiad y mae'r athro neu'r athrawes wedi ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser arno o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3), am gyfnod o, neu am gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn—
(a)ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn llawnamser; a
(b)pedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno, os cyflogir yr athro neu'r athrawes yn rhan-amser.
(2) Y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(4) yw—
(a)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 1, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, ddwy flynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;
(b)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 2, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 2 neu swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arno;
(c)os cyflogir yr athro neu'r athrawes mewn swydd cam 3, y dyddiad y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes arno mewn swydd cam 3 am gyfnod o, neu gyfnodau ysbeidiol y mae eu cyfanswm yn dod yn, bedair blynedd o'r dyddiad y dechreuodd y cwrs perthnasol arNo.
(3) Y “cwrs perthnasol” y cyfeirir ato ym mharagraff (1) a (2) yw—
(a)at ddibenion paragraff (1), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu'n athrawes berthnasol gyntaf a chael ei gyflogi neu ei chyflogi yn llawnamser, neu'n rhan-amser o dan gontract fel a grybwyllir yn rheoliad 3(3);
(b)at ddibenion paragraff (2)(a), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 1 y gallai fod yn rhesymol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes fynd yn athro neu athrawes berthnasol;
(c)at ddibenion paragraff (2)(b), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 2 y gallai fod yn rhesymol i'r athro neu i'r athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 2 neu swydd cam 3 am y tro cyntaf; a
(ch)at ddibenion paragraff (2)(c), y cwrs cyntaf sy'n arwain at gymhwyster addysgu AB cam 3 y gall fod yn rheysmol i athro neu athrawes ei fynychu, gan ddechrau ar ôl i'r athro neu'r athrawes ddechrau ar swydd cam 3 am y tro cyntaf.
(4) Wrth gyfrif y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) ni chyfrifir y cyfnodau canlynol—
(a)unrhyw gyfnodau pryd mae'r athro neu'r athrawes yn absennol oherwydd salwch, seibiant mamolaeth neu seibiant rhieiniol ; a
(b)unrhyw gyfnodau eraill y mae o dan yr holl amgylchiadau yn rhesymol i'w gadael allan o'r cyfrif.
5. Diwygir Rheoliad 4 o Reoliadau 1999 fel a ganlyn—
(a)ym mharagraff (2)(b) ar ôl “sefydliad addysg bellach” mewnosodir “a gynhelir gan awdurdod addysg lleol”; a
(b)am baragraff (3) amnewidir—
“(3) Mae'r gofynaid ym mharagraff (1) yn ychwanegol at y gofynion sy'n ymwneud â chymwysterau ar gyfer cyflogaeth mewn ysgolion a sefydliadau o fewn y sector addysg bellach a gynhwysir yn Rhan IV o'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002 yn y drefn honNo. ”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
25 Mehefin 2002