2002 Rhif 157 (Cy.23)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(5), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2)

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod gwasanaethau cymdeithasol” (“social services authority”) yw awdurdod lleol at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19703 yn gweithredu i gyflawni unrhyw swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 1A o'r Ddeddf honno;
  • mae i “awdurdod iechyd” yr un ystyr â “health authority” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19774); ac
  • ystyr “datganiad” (“statement”) yw datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996.

(3)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

(4)

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas—

(a)

ag ysgolion meithrin, neu

(b)

â phlant o dan oedran ysgol gorfodol.

Cyhoeddi gwybodaeth2.

Rhaid i awdurdod addysg lleol—

(a)

cyhoeddi gwybodaeth am y materion a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 3(1), (2) a (3);

(b)

cadw golwg ar yr wybodaeth honno; ac

(c)

os ceir newid arwyddocaol mewn unrhyw ran o'r wybodaeth honno, diwygio'r wybodaeth yn unol â hynny a chyhoeddi'r wybodaeth ddiwygiedig yn unol â rheoliad 3(4).

Dull cyhoeddi'r wybodaeth3.

(1)

Rhaid i'r awdurdod addysg lleol gyhoeddi'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 2(a) —

(a)

drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol y mae ganddynt fuddiant yn yr wybodaeth honno ym marn yr awdurdod addysg lleol drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

(b)

drwy drefnu bod yr wybodaeth ar gael ar unrhyw wefan y gall fod yr awdurdod yn ei chynnal ar y Rhyngrwyd;

(c)

drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

(ch)

drwy roi copi ysgrifenedig o'r wybodaeth i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

(2)

Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraff 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 30 Ebrill 2002 neu cyn hynny.

(3)

Rhaid i'r wybodaeth am y materion a nodir ym mharagraffau 2 a 3 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn gael ei chyhoeddi ar 31 Gorffennaf 2002 neu cyn hynny.

(4)

Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd i'w chyhoeddi yn unol â rheoliad 2(c) gael ei chyhoeddi gan yr awdurdod addysg lleol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddiwygiad gael ei wneud—

(a)

drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i awdurdod iechyd neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol a gafodd wybodaeth o'r blaen oddi wrth yr awdurdod addysg lleol yn unol â rheoliad 3(1)(a) drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod;

(b)

drwy ddiweddaru unrhyw wefan a gynhelir gan yr awdurdod ar y Rhyngrwyd i ddangos yr wybodaeth ddiwygiedig;

(c)

drwy hysbysu'r ysgolion a gynhelir yn ardal yr awdurdod am y diwygiadau drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod; ac

(ch)

drwy roi'r wybodaeth ddiwygiedig i unrhyw berson sy'n gwneud cais amdano drwy'r post, drwy gyfathrebu'n electronig neu drwy unrhyw fodd arall sydd wedi'i gytuno â'r awdurdod.

(5)

Rhaid i'r wybodaeth a gyhoeddir yn unol â'r rheoliad hwn gael ei chyhoeddi yn ddi-dâl.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W DARPARU GAN YR AWDURDODAU ADDYSG LLEOL

Rheoliad 2

1.

Esboniad ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig (ond sydd heb ddatganiadau) y mae'r awdurdod addysg lleol yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb ac ar yr elfen honno o'r ddarpariaeth honno y mae'r awdurdod yn disgwyl fel rheol iddi gael ei thalu gan yr awdurdod o'r arian sydd ganddo yn ganolog.

2.

Nodau bras polisi'r awdurdod addysg lleol mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig ynghyd â gwybodaeth am y camau y mae'r awdurdod yn eu cymryd—

(a)

i hybu safonau addysgol uchel i blant ag anghenion addysgol arbennig;

(b)

i annog plant ag anghenion addysgol arbennig i chwarae rhan gyflawn yn eu hysgol a'u cymuned ac i gymryd rhan mewn penderfyniadau am eu haddysg ac i wneud dewisiadau amdani;

(c)

i annog yr ysgolion yn eu hardal i rannu eu harferion wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig; ac

(ch)

i weithio gyda chyrff statudol a gwirfoddol eraill i ddarparu cymorth i blant ag anghenion addysgol arbennig.

3.

Y trefniadau cyffredinol a wneir gan yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw gynlluniau, amcanion a graddfeydd amser ar gyfer—

(a)

adnabod plant yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig;

(b)

monitro derbyniadau plant ag anghenion addysgol arbennig (p'un a oes gan y plant hyn ddatganiad neu beidio) i'r ysgolion a gynhelir yn eu hardal;

(c)

trefnu asesiadau anghenion addysgol plant yn unol ag adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 yn ardal yr awdurdod addysg lleol, gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

(ch)

trefnu gwneud a chynnal datganiadau yn eu hardal gan gynnwys unrhyw brotocolau lleol ar gyfer gwneud hyn;

(d)

rhoi cymorth i'r ysgolion yn eu hardal mewn perthynas â gwneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(dd)

archwilio, cynllunio, monitro ac adolygu'r ddarpariaeth ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig yn eu hardal, yn gyffredinol ac mewn perthynas â phlant unigol;

(e)

sicrhau hyfforddiant, cyngor a chymorth i'r staff sy'n gweithio yn eu hardal gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig; ac

(f)

adolygu a diweddaru'r trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (e).

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar yr awdurdodau addysg lleol i gyhoeddi gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â darparu addysg ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

Yn benodol, mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi esboniad ar y rhan honno o'r ddarpariaeth addysgol arbennig y maent yn disgwyl i'r ysgolion a gynhelir ei hariannu o'u cyfran hwy o'r gyllideb, ac ar yr elfen honno y maent yn disgwyl ei hariannu eu hunain.

Hefyd rhaid iddynt gyhoeddi gwybodaeth am nodau bras eu polisi ar anghenion addysgol arbennig, yn ogystal â'r camau penodol y maent yn eu cymryd ar faterion anghenion addysgol arbennig.