(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag asesu anghenion addysgol arbennig ac â datganiadau o'r anghenion hynny o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Maent yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994, sy'n cael eu diddymu (rheoliad 25).

Mae'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth i bennaeth ysgol ddirprwyo swyddogaethau o dan y Rheoliadau yn gyffredinol i athro neu athrawes gymwysedig, neu mewn achos penodol, i'r aelod o'r staff sy'n addysgu'r plentyn (rheoliad 3).

Mae'r Rheoliadau hefyd yn cydategu'r fframwaith gweithdrefnol ar gyfer gwneud asesiad a datganiad a gynhwysir yn Rhan IV o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlenni 26 a 27 iddi. Gwneir darpariaeth fanwl ar gyfer cyflwyno dogfennau drwy'r post (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o hysbysiadau o gynnig awdurdod addysg lleol i wneud asesiad, eu penderfyniad i wneud asesiad neu hysbysiadau o gais rhiant neu gorff cyfrifol am asesiad, gael eu cyflwyno i'r awdurdod gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdod iechyd a phennaeth ysgol y plentyn neu'r pennaeth AAA os yw'r plentyn yn derbyn addysg feithrin berthnasol (rheoliad 6). Yn ddarostyngedig i eithriadau, maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol gymryd camau gwahanol, gan gynnwys darparu gwybodaeth ragnodedig, wrth wneud asesiad neu ddatganiad o fewn terfynau amser rhagnodedig (rheoliadau 12 a 17 yn y drefn honno).

Mae'r Rheoliadau'n darparu bod rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, wrth wneud asesiad o anghenion addysgol arbennig plentyn, ofyn am gyngor rhiant y plentyn, cyngor addysgol, cyngor meddygol, cyngor seicolegol, cyngor gan yr awdurdod gwasanaethau cymdeithasol ac unrhyw gyngor arall y maent yn credu ei fod yn briodol er mwyn gwneud asesiad boddhaol (rheoliad 7). Os oes cyngor o'r fath wedi'i sicrhau wrth wneud asesiad blaenorol o fewn y 12 mis diwethaf a bod personau penodol yn fodlon ei fod yn ddigonol, nid oes angen sicrhau cyngor newydd (rheoliad 7(5)). Gwneir darpariaeth ynghylch y personau y mae'n rhaid gofyn iddynt roi cyngor addysgol, meddygol a seicolegol (rheoliadau 8 i 10). Wrth wneud asesiad, darperir bod rhaid i'r awdurdod gymryd i ystyriaeth sylwadau gan y rhiant, tystiolaeth a gyflwynir gan y rhiant, a'r cyngor sydd wedi'i sicrhau (rheoliad 11).

Gwneir darpariaeth i blentyn heb ddatganiad a dderbynnir i ysgol arbennig er mwyn cael ei asesu aros yno pan fydd yr asesiad wedi'i gwblhau (rheoliad 13).

Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi'r drafft hysbysiad sydd i'w gyflwyno i riant ynghyd â datganiad drafft o anghenion addysgol arbennig neu ddatganiad diwygiedig, neu hysbysiad diwygio (rheoliadau 14 a 15 a Rhan A a B o Atodlen 1 yn y drefn honno). Rhagnodir ffurf a chynnwys datganiad hefyd (rheoliad 16 ac Atodlen 2).

Gwneir darpariaeth fanwl ynghylch sut mae adolygiad blynyddol o ddatganiad gan awdurdod addysg lleol o dan adran 328 o Ddeddf Addysg 1996 i gael ei gynnal (rheoliadau 18 i 22). Mae'n ofynnol i'r awdurdodau addysg lleol anfon rhestrau cyfansawdd o ddisgyblion y mae arnynt angen adolygiadau blynyddol at benaethiaid ac at yr awdurdodau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol cyn pob tymor ac at y Gwasanaeth Gyrfaoedd bob blwyddyn (rheoliad 18). Gwneir darpariaeth arbennig ar gyfer adolygiadau os yr adolygiad cyntaf ar ôl i'r plentyn ddechrau ar ei ddegfed flwyddyn o addysg orfodol yw'r adolygiad. Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdodau sicrhau bod datganiadau'n cael eu diwygio erbyn 15 Chwefror yn y flwyddyn y bydd y plentyn yn trosglwyddo rhwng cyfnodau yn ei addysg.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer trosglwyddo datganiad o un awdurdod addysg lleol i un arall (rheoliad 23). Mae dyletswyddau'r trosglwyddwr yn cael eu trosglwyddo i'r trosglwyddai, ac o fewn chwe wythnos ar ôl y trosglwyddo, rhaid i'r trosglwyddai gyflwyno hysbysiad i'r rhiant yn rhoi gwybod iddo neu iddi am y trosglwyddo, a ydynt yn bwriadu gwneud asesiad, a phryd y maent yn bwriadu adolygu'r datganiad (rheoliad 23(2), (3) a (4)). Pan na fyddai'n ymarferol ei gwneud yn ofynnol i'r trosglwyddai drefnu i'r plentyn fynychu ysgol a bennir yn y datganiad, darperir nad oes angen iddynt wneud hynny, ond y gallant drefnu i'r plentyn fynychu ysgol arall nes ei bod yn bosibl diwygio'r datganiad (rheoliad 23(6)).

Ceir cyfyngiadau ar ddatgelu datganiadau a rhaid cymryd camau i atal personau diawdurdod rhag cael eu gweld (rheoliad 24).

Gwneir darpariaeth ar gyfer trosi o'r gyfundrefn a osodwyd gan Reoliadau 1994 i'r gyfundrefn a osodir gan y Rheoliadau hyn (rheoliad 26). Yn fras, gall unrhyw gamau a gymerwyd o dan Reoliadau 1994 gael eu cwblhau o dan y rheoliadau hynny. Os oes asesiad wedi'i ddechrau cyn 1 Ebrill 2002, caiff yr awdurdod addysg lleol barhau i wneud yr asesiad o dan Reoliadau 1994. Er hynny, os nad yw'r asesiad wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 2002, fe fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r asesiad fel pe bai wedi'i ddechrau odanynt ar y dyddiad hwnnw (rheoliad 26(3)).