(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, sy'n nodi nifer o egwyddorion sydd i weithredu fel cylch gwaith ar gyfer cyrff llywodraethu ac sydd hefyd yn darparu ar gyfer rôlau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion.
Mae'r diwygiadau'n gosod dyletswyddau penodol ar gorff llywodraethu ac ar bennaeth mewn perthynas â sefydlu polisi rheoli perfformiad ar gyfer yr ysgol. Dogfen bolisi ar gyfer yr ysgol yw hon, sy'n nodi sut y caiff y gwaith o werthuso athrawon yn yr ysgol ei gyflawni. Mae'n cydategu'r fframwaith statudol ar gyfer gwerthuso athrawon ysgol.