- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mai 2002
Yn dod i rym
30 Medi 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Medi 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.
2.—(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) cyn y diffiniad o “blwyddyn ysgol” mewnosodwch y canlynol—
ystyr “athro ysgol” (“school teacher”) yw athro neu athrawes a gyflogir mewn dim mwy na dwy ysgol, gan awdurdod addysg lleol neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol arbennig sefydledig, ond nid yw'n cynnwys athro neu athrawes a gyflogir o dan gontract cyfnod penodol os yw'r cyfnod yn llai na blwyddyn;”.
(3) Ar ôl rheoliad 9 mewnosodir y rheoliad canlynol—
10.—(1) Erbyn 30 Tachwedd 2002, rhaid i'r corff llywodraethu sefydlu polisi ysgrifenedig (“y Polisi Rheoli Perfformiad”) yn nodi sut mae gwerthuso athrawon ysgol i gael ei roi ar waith yn yr ysgol.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwerthuso athrawon ysgol” yw'r system o werthuso penaethiaid ac athrawon ysgol eraill a lywodraethir gan reoliadau a wneir o dan adran 49 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986(4) (“y Rheoliadau Gwerthuso”).
(3) Os caiff ei gyfarwyddo gan y corff llywodraethu, rhaid i'r pennaeth lunio Polisi Rheoli Perfformiad.
(4) Rhaid i'r corff llywodraethu ystyried a mabwysiadu, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wrthod, Polisi Rheoli Perfformiad a lunnir gan y pennaeth yn unol â pharagraff (3).
(5) Rhaid i'r corff llywodraethu adolygu'r Polisi Rheoli Perfformiad bob blwyddyn ysgol.
(6) Yn dilyn adolygiad o'r fath, os gwelant yn dda, bydd y corff llywodraethu'n diwygio'r Polisi Rheoli Perfformiad.
(7) Cyn sefydlu'r Polisi Rheoli Perfformiad yn unol â pharagraff (1), neu ei ddiwygio yn unol â pharagraff (6), rhaid i'r corff llywodraethu sicrhau yr ymgynghorir â phob athro ysgol yn yr ysgol.
(8) Os caiff ei gyfarwyddo gan y corff llywodraethu, rhaid i'r pennaeth ymgynghori â phob athro ysgol arall yn yr ysgol ynghylch llunio Polisi Rheoli Perfformiad neu ddiwygio Polisi Rheoli Perfformiad.
(9) Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu roi'r Polisi Rheoli Perfformiad ar waith.
(10) Rhaid i'r corff llywodraethu drefnu bod copi o'r Polisi Rheoli Perfformiad ar gael i'w archwilio yn yr ysgol ar unrhyw adeg resymol—
(a)gan unrhyw athro ysgol a gyflogir yn yr ysgol;
(b)gan unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu gweithredu'r system gwerthuso athrawon ysgol;
(c)gan unrhyw werthuswr a benodir yn unol â'r Rheoliadau Gwerthuso.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mai 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, sy'n nodi nifer o egwyddorion sydd i weithredu fel cylch gwaith ar gyfer cyrff llywodraethu ac sydd hefyd yn darparu ar gyfer rôlau a chyfrifoldebau priodol cyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion.
Mae'r diwygiadau'n gosod dyletswyddau penodol ar gorff llywodraethu ac ar bennaeth mewn perthynas â sefydlu polisi rheoli perfformiad ar gyfer yr ysgol. Dogfen bolisi ar gyfer yr ysgol yw hon, sy'n nodi sut y caiff y gwaith o werthuso athrawon yn yr ysgol ei gyflawni. Mae'n cydategu'r fframwaith statudol ar gyfer gwerthuso athrawon ysgol.
1998 p.31; i gael ystyr “regulations” gweler adran 142(1).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
1986 p.61. Diwygiwyd adran 49 gan baragraffau 36 a 101 o Atodlen 12 i Deddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), gan baragraff 23 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) a chan baragraff 14 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999, O.S.1999/2888 (Cy.25) oedd y rheoliadau a oedd mewn grym o dan adran 49 adeg gwneud y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: