Gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 o dan adrannau 22(6), (7), (8), (9), (10), (11) a (12), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 er mwyn rheoleiddio gwahanol faterion mewn perthynas รข'r busnes a weithredir gan awdurdodau lleol sydd yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth. Gwneir y Rheoliadau yma drwy ddefnyddio'r un pwerau i wneud ychwanegiad i'r Rheoliadau blaenorol hynny.
Mae Rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth i gadeirydd cyfarfod o'r weithrediaeth, neu bwyllgor o'r weithrediaeth, o awdurdod lleol wneud ychwanegiadau at agenda'r cyfarfod os yw'r person hynny o'r farn y dylid ystyried y mater ychwanegol, yn rhinwedd amgylchiadau arbennig, fel mater o frys.