(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys i awdurdodau addysg lleol (AALl) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau'n pennu'r wybodaeth am wariant AALl ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad o wariant cynlluniedig “datganiad cyllideb” y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi cyn dechrau pob blwyddyn ariannol o dan is-adran (1) o adran 52. Mae'r Rheoliadau yn disodli Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.

O dan reoliad 4, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei baratoi mewn tair rhan, fel a ganlyn—

(a)

Rhan 1, ar y ffurf a chan gynnwys y manylion gwariant cynlluniedig ar gyfer yr ysgolion unigol a bennir yn Atodlen 1;

(b)

Rhan 2, ar y ffurf a chan gynnwys yr wybodaeth o ran y fethodoleg ar gyfer penderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb a bennir yn Atodlen 2; ac

(c)

Rhan 3 , sy'n cynnwys yr wybodaeth o ran cyfran pob un o ysgolion yr awdurdod o'r gyllideb a bennir yn Atodlen 3.

Rhaid cwblhau Rhan 1 a 2 yn Gymraeg ac yn y Saesneg. Gellir cwblhau Rhan 3 yn y naill iaith neu'r llall neu'n y ddwy.

Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb — gweler rheoliadau 5—8.

Y newid mwyaf arwyddocaol ar y Rheoliadau blaenorol yw nad yw mwyach yn ofynnol cyflwyno gwybodaeth ar lefel yr AALl (Atodlen 1 i Reoliadau 1999), oherwydd ceir hyn ar ffurflenni diwygiedig cyfrif refeniw (RA) llywodraeth leol.

Mae Rhan 1 o'r datganiad cyllideb (gwybodaeth lefel ysgol) yn egluro sut i ymdrin ag ysgolion sydd ar fin agor neu ar fin cau yn ystod y flwyddyn ariannol. Cafodd Rhan 2 (ffactorau ariannu) ei diwygio er mwyn ei gwneud yn gliriach i'w dilyn a'i chwblhau. Mae Rhan 3 (cymhwyso ffactorau at ysgolion) bellach yn rhagnodi is-gyfansymiau, er mwyn sicrhau cysondeb ac er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy defnyddiol i ysgolion.