xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
25 Ionawr 2002
Yn dod i rym
1 Chwefror 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 52(1), (3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac adran 26 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2002.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir i “special educational needs” a “special educational provision” gan adran 312(2) a (4) o Ddeddf Addysg 1996(4));
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod addysg lleol;
mae i “blwyddyn ariannol” yr ystyr a roddir i “financial year” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(5);
dehonglir “cyfnod allweddol” (“key stage”) yn unol ag adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996;
mae i “cyfran o'r gyllideb” yr ystyr a roddir i “budget share” gan adran 47(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “datganiad” (“statement”) mewn perthynas â disgybl ag anghenion addysgol arbennig yw datganiad a wneir o dan adran 324(1) o Ddeddf Addysg 1996;
ystyr “datganiad cyllideb” (“budget statement”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn adran 52(1) o Ddeddf 1998;
ystyr “ffactor” (“factor”) yw un o'r ffactorau neu'r meini prawf a gymerir i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu;
ystyr “fformwla ddyrannu” (“allocation formula”) yw fformwla'r awdurdod o dan reoliad 10 o Reoliadau 1999 a ddefnyddir i benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ysgolion;
ystyr “ISB” yw cyllideb ysgolion unigol awdurdod o fewn ystyr adran 46(2) o Ddeddf 1998;
ystyr “perthnasol” (“relevant”) mewn perthynas ag “oedran” (“age”), “grŵ p oedran” (“age group”) a “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw oedran, grŵ p oedran neu grŵ p blwyddyn sy'n cael eu trin ar wahân yn y fformwla ddyrannu at ddibenion penderfynu'r rhan honno o gyfran pob ysgol o'r gyllideb sydd i'w phenderfynu drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig;
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion a Gynhelir 1999(6);
ystyr “rhif AALl” (“LEA number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r awdurdod gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif cyfeirnod swyddogol” (“official reference number”) yw'r rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i'r ysgol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
ystyr “rhif fersiwn” (“version number”) yw rhif sy'n gwahaniaethu ffurflen benodol a gyflwynir gan yr awdurdod oddi wrth fersiynau cynharach o'r ffurflen a gyflwynwyd ganddynt;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir, sef ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig; ac
mae i “ysgol ganol” yr ystyr a roddir i “middle school” gan adran 5(3) o Ddeddf Addysg 1996(7).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
(a)nid yw cyfeiriadau at ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig; a
(b)mae cyfeiriadau at nifer neu niferoedd o ddisgyblion cofrestredig mewn un neu fwy o ysgolion yn gyfeiriadau at y nifer neu'r niferoedd o'r cyfryw ddisgyblion y mae'n ofynnol eu defnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb neu gyfrannau yr ysgolion hynny o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn gan anwybyddu unrhyw bwysoliad yn unol â pharagraff (7) neu unrhyw addasiad o dan baragraff (8) o reoliad 11 o Reoliadau 1999.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999(8).
(2) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny'n parhau yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1999, 1 Ebrill 2000 ac 1 Ebrill 2001.
4.—(1) Rhaid paratoi datganiad cyllideb mewn tair rhan.
(2) Rhaid cwblhau Rhan 1 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1 a rhaid cynnwys yr wybodaeth, mewn perthynas â gwariant cynlluniedig yr awdurdod ar gyfer pob ysgol am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi, a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno;
(3) Rhaid cwblhau Rhan 2 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â fformwla ddyrannu'r awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno; a
(4) Gellir cwblhau Rhan 3 yn Gymraeg neu'n Saesneg (neu'r ddwy) a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â chyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn Atodlen 3.
(5) Rhaid i faint y ffont a ddefnyddir beidio â bod yn llai na 7pt.
(6) Rhaid i'r wybodaeth ganlynol ymddangos ar frig bob Rhan o ddatganiad cyllideb:
(a)Y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi;
(b)Enw'r awdurdod;
(c)Rhif AALl yr awdurdod;
(ch)Y rhif fersiwn neu'r rhif “1” os hon yw'r fersiwn gyntaf; a
(d)Y dyddiad y cafodd y ffurflen ei chwblhau.
(7) At ddibenion cwblhau datganiadau cyllideb, mae ysgol ganol i'w thrin fel ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, yn ôl fel y digwydd, yn ôl sut y mae'r ysgol i'w thrin at ddibenion penderfynu ei chyfran o'r gyllideb o dan fformwla ddyrannu'r awdurdod.
(8) Os oes person yn cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod, rhaid i'r awdurdod gynnwys gwybodaeth yn Rhannau 1 i 3 o'r datganiad cyllideb fel pe bai gwariant gan y person hwnnw wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn wariant gan yr awdurdod.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, at ddibenion adran 52(3)(b) o Ddeddf 1998, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei gyhoeddi—
(a)drwy roi dau gopi i'r Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)drwy drefnu bod copi ar gael i rieni a phersonau eraill gyfeirio ato ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl ym mhob un o swyddfeydd addysg yr awdurdod.
6.—(1) Rhaid hefyd roi pob datganiad cyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i unrhyw iaith gyfrifiadurol neu feddalwedd a ddefnyddir i gyflwyno tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.
7.—(1) Rhaid cyhoeddi datganiad cyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi.
(2) Ni ellir adolygu datganiad cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi heblaw i gywiro gwallau yn y datganiad fel y cyhoeddwyd ef yn flaenorol.
(3) Bydd datganiad cyllideb diwygiedig yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5, 6, 7(2) ac 8.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol paratoi fersiwn diwygiedig o'r testun Cymraeg os yw'r gwallau yn y testun Saesneg yn unig a vice versa.
8. Ar yr un adeg ag y maent yn cyhoeddi datganiad cyllideb yn unol â rheoliadau 5 a 6, rhaid i'r awdurdod roi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt gopi o Rannau 1 a 2 o'r datganiad cyllideb a chopi o'r rhan honno o Ran 3 o'r datganiad cyllideb sy'n berthnasol i'r ysgol o dan sylw, ond os yw'r corff llywodraethu neu'r pennaeth yn gofyn amdano rhaid i'r awdurdod roi iddynt gopi cyflawn o Ran 3 o'r datganiad cyllideb.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
25 Ionawr 2002
Rheoliad 4(2)
Rhaid i Ran 1 o ddatganiad cyllideb (gwybodaeth lefel-ysgol) fod yn y ffurf ganlynol ac yn unol â'r nodiadau. Rhaid cwblhau fersiynau Cymraeg a Saesneg y ffurflen.
Mae'r nodiadau â rhif isod yn cyfeirio at yr eitemau yn y tabl sy'n dwyn y rhif cyfatebol.
1. Rhowch enwau'r holl ysgolion a gynhelir neu sydd i'w cynnal gan yr AALl yn y flwyddyn ariannol yn y drefn ganlynol—
(a)ysgolion cynradd;
(b)ysgolion uwchradd;
(c)ysgolion arbennig.
2. Gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch rif cyfeirnod swyddogol yr ysgol honno yng Ngholofn 2.
3. Yng Ngholofn 3, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y llythyren “C” os yw'r ysgol i gau yn ystod y flwyddyn ariannol a'r llythyren “A” os yw'r ysgol i agor yn ystod y flwyddyn ariannol; fel arall gadewch Golofn 3 yn wag.
4. Yng Ngholofn 4 rhowch y dyddiad y bwriedir i ysgol o'r fath gau neu agor, yn ôl fel y digwydd; fel arall gadewch Golofn 4 yn wag.
5. Yng Ngholofn 5, gyferbyn ag enw pob ysgol rhowch—
(a)yn achos ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, y nifer o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol sydd angen ei ddefnyddio o dan y fformwla ddyrannu ar gyfer penderfyniad cychwynnol cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb; neu
(b)yn achos ysgol arbennig, y nifer o leoedd yn yr ysgol a ariennir gan yr AALl ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Yn achos ysgol a fydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, rhaid i'r nifer a benderfynir yn unol ag (a) neu (b) uchod gael ei ostwng i adlewyrchu cyfran y flwyddyn y mae'r ysgol i fod ar agor. Er enghraifft, os disgwylir i ysgol fod ar agor am saith mis o'r flwyddyn ariannol, y nifer o ddisgyblion a ddangosir ddylai fod y nifer o ddisgyblion wedi'i luosi â 7, yna ei rannu â 12.
6. Yng Ngholofn 6, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch holl gyfran yr ysgol o'r gyllideb. Ar gyfer ysgolion sydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, dylid dangos y gyfran wirioneddol o'r gyllideb a roddir i'r ysgol.
7. Yn Ngholofn 7, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y gwariant cynlluniedig fesul disgybl yn yr ysgol wedi'i gyfrifo drwy rannu'r swm a roddir yn unol â nodyn 6 â'r nifer o ddisgyblion neu leoedd ar gyfer yr ysgol a roddir yn unol â nodyn 5.
8. Yng Ngholofn 8, gyferbyn ag enw pob ysgol (heblaw ysgol arbennig), rhowch swm y rhan honno o gyfran yr ysgol o'r gyllideb sy'n deillio o gymhwyso'r fformwla ddyrannu mewn perthynas â'r amcangyfrif o angen yr ysgol i wneud darpariaeth addysgol arbennig.
9. Yng Ngholofn 9, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch swm yr arian ychwanegol cynlluniedig (gan gynnwys grantiau) y bwriedir eu dyrannu i'r ysgol nad ydyw'n rhan o gyfran yr ysgol o'r gyllideb.
10. Yn llinell 10 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
11. Yn llinell 11 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion uwchradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
12. Yn llinell 12 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
13. Yn llinell 13 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny yn unol â nodiadau 7 i 12, ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno.
14. Yn llinell 14 rhowch y swm o'r ISB sydd heb ei ddyrannu i gyfrannau'r ysgolion o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi'r cyfanswm.
15. Yn llinell 15 rhowch gyfanswm yr arian o'r math y cyfeirir ato yn Nodyn 9 y mae'r AALl yn bwriadu ei ddyrannu i'r ysgol ond nad ydyw'n cael ei ddyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi cyfanswm.
16. Yn llinell 16 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd yng ngholofn 6 yn unol â Nodyn 13 ac yn y blwch “cyfanswm” yn unol â Nodyn 14.
Rheoliad 4(3)
Rhaid i Ran 2 o ddatganiad cyllideb (gwybodaeth am y fformwla ddyrannu) fod yn y ffurf ganlynol ac yn unol â'r nodiadau. Rhaid cwblhau fersiynau Cymraeg a Saesneg y ffurflen.
1. Mae'r nodiadau â rhif isod yn cyfeirio at yr eitemau yn y tabl sy'n dwyn y rhif cyfatebol. Pan nad yw awdurdod yn bwriadu gwneud unrhyw ddarpariaeth ariannol ar gyfer unrhyw fater a restrir yn y tabl rhaid rhoi sero yn y lle priodol.
Rhaid i'r tabl restru a chynnwys disgrifiad o bob ffactor a ddefnyddir gan gynnwys methodoleg lawn y ffactor. Dylid darparu'r disgrifiad hwn yn y tabl yn y blwch perthnasol sy'n dwyn y pennawd “Dull”.
3. Yn y fan hon rhowch ddisgrifiad o'r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo, o'r niferoedd disgyblion a gymerwyd o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol, y nifer o'r disgyblion sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth ddyrannu arian drwy fformwla ddyrannu'r awdurdod.
4. Pennawd colofn cyffredinol ar gyfer y math o ffactor a'i enw a ddefnyddiwyd i benderfynu cyllidebau ysgol.
5. Yn y golofn hon (5) rhowch gyferbyn â phob ffactor yng ngholofn (4) ac mewn trefn gynyddol bob blwyddyn, grŵp oedran, grŵp blwyddyn, pwnc a addysgir neu fand yn seiliedig ar asesiad o'r angen sy'n berthnasol ac sy'n gymwys yn unol â'r fformwla ddyrannu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan bennu ar wahân unrhyw gategorïau penodol ar wahân ar gyfer disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu'r rhai sy'n cael eu hariannu yn ôl y pwnc a astudir. Os yw nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin wedi'u pwysoli yna rhaid i'r pwysoliadau gael eu dangos gyda nodyn i esbonio a yw'r niferoedd yn niferoedd gwirioneddol neu'n seiliedig ar rai cyfatebol amser-llawn. Rhowch hefyd yn yr adrannau priodol o'r tabl yr ystod neu'r lefelau sy'n berthnasol i ffactorau penodol i safle a phenodol i ysgol.
6. Yn y golofn hon (6), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4), rhowch y swm a briodolir i bob disgybl yn y flwyddyn, y grŵp oedran, y grŵp blwyddyn, y pwnc a addysgir neu'r band yn seiliedig ar asesiad o angen.
7. Rhowch yn y golofn hon (7), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4)—
(a)cyfanswm nifer y disgyblion cofrestredig yn y flwyddyn, y grŵp oedran neu'r grŵp blwyddyn mewn ysgolion cynradd ac uwchradd sy'n cael eu cymryd i ystyriaeth yn y fformwla ddyrannu, gan anwybyddu unrhyw bwysoli; neu
(b)nifer y lleoedd, yn achos darparu lleoedd mewn ysgolion y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod ar gadw i blant ag anghenion addysgol arbennig, neu i blant mewn dosbarthiadau meithrin.
8. Yn y golofn hon (8), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4), rhowch y symiau a geir drwy luosi'r swm yng ngholofn (6) â'r rhif yng ngholofn (7).
9. Yn y golofn hon (9) rhowch gydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8) wedi'i fynegi fel canran o'r swm y cyfeirir ato yn llinell (32).
10. Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a'u hoedrannau (neu eu grŵp oedran neu'r grŵp blwyddyn y maent yn perthyn iddo), eu presenoldeb mewn dosbarth meithrin, pynciau eu hastudiaethau neu unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu yr ymdrinnir â hwy fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu, fel bod pob disgybl o fewn categori penodol yn denu symiau cyfartal ni waeth pa ysgol y mae'n ei mynychu.
11. Pennawd ar gyfer y cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-adran ariannu pwysoliad-oedran y tabl.
12. Yn y golofn hon (12) rhowch y symiau sy'n cynrychioli'r pwysoliad a roddir yn ôl oedran (gan gynnwys cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn), a ddarperir addysg feithrin i ddisgybl neu'r pwnc neu'r cwrs astudiaeth yn achos disgyblion mewn chweched dosbarth.
13. Yn y fan hon rhowch ddisgrifiad o'r dull a ddefnyddiwyd i weithredu'r ffactor, gan esbonio amrywiadau yn lefel y ddarpariaeth y gall disgyblion neu eu hysgolion eu denu.
14. Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y rhifau yng ngholofn (7), a chydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.
15. Yn y golofn hon rhowch bob ffactor, sy'n berthnasol i ddisgyblion â datganiadau, sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac at unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu y maent i'w trin fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu.
16. Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau, a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (15) pe baent yn berthnasol i ddisgyblion â datganiadau.
17. Yn y golofn hon rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (16) uchod) sy'n dyrannu'r ISB ar sail anghenion perthnasol ysgolion unigol cynradd ac uwchradd i dynnu gwariant wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
18. Yn y golofn hon (18) rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (17) uchod) y dyrennir yr un arian i ddisgyblion o'r un oedran yn unol â hwy, ni waeth beth yw natur yr ysgol y maent yn ei mynychu.
19. Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn y blychau cyfanswm yn llinellau (11), (15), (16), (17) a (18), yn unol â nodyn (14) ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm, a chydgyfanswm y canrannau a roddir yng ngholofn (9).
20. Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (16) uchod oni bai am effaith gyfyngu rheoliad 22(d) o Reoliadau 1999.
21. Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at ffactorau heblaw'r rhai hynny y cyfeirir atynt yn nodiadau (11) i (18). Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:
anghenion addysgol ychwanegol,
penodol i safle, neu
benodol i ysgol.
22. Yn y golofn hon (22) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol yn unol â hwy.
23. Yn y golofn hon (23) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd yr ysgol.
24. Yn y golofn hon (24), gyferbyn â phob uned o fesur a ddisgrifir yng ngholofnau (23), (25) a (26), rhowch y nifer o unedau o dan sylw.
25. Yn y golofn hon (25) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.
26. Yn y golofn hon (26) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb. Cynhwyswch unrhyw addasiadau i adlewyrchu addasiadau ôl-weithredol yn niferoedd y disgyblion gan gynnwys disgyblion a waharddwyd.
27. Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac uwchradd ac na chafodd ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Dangoswch y symiau ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.
28. Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (19), (20), (22), (23), (25), (26) a (27), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm.
29. Pennawd cyffredinol ar gyfer yr ysgolion y mae'r adran hon o'r tabl yn berthnasol iddynt.
30. Yn y golofn hon (30) rhowch y math o ffactor a'i enw a ddefnyddwyd i ddyrannu'r ISB i ysgolion arbennig drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o leoedd y maent yn eu darparu.
31. Yn y golofn hon (31) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o ddisgyblion yn yr ysgol.
32. Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB i ysgolion arbennig heblaw drwy gyfeirio at nifer y lleoedd a ddarperir, neu nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny. Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:
Anghenion addysgol ychwanegol,
penodol i safle, neu
benodol i ysgol.
33. Yn y golofn hon (33) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol.
34. Yn y golofn hon (34) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd ysgol arbennig.
35. Yn y golofn hon (35) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.
36. Yn y golofn hon (36) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb.
37. Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac sydd heb ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
38. Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (30), (31), (33), (34), (35), (36) a (37).
39. Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (28) a (38).
Gall awdurdod gynnwys yn yr Atodiad unrhyw wybodaeth berthnasol yn ychwanegol at yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys yn y tabl.
Rheoliad 4(4)
Rhaid i awdurdod nodi mewn perthynas â phob ysgol a gynhelir ganddo, yr holl ffactorau a ddangosir yn Rhan 2 o'r datganiad cyllideb, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y cyfeirir ati yn y Rhan honno sy'n gymwys mewn perthynas â chymhwyso'r ffatorau hynny at ysgolion.
Rhaid darparu is-gyfansymiau ar gyfer pob ysgol yn dangos cydgyfanswm y symiau a ddyrennir i'r ysgol honno o dan bob un o'r categorïau canlynol:
1. Arian sydd wedi'i bwysoli yn ôl oedran
2. AAA i gynnwys
disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig
disgyblion heb ddatganiadau
arian a seilir ar niferoedd lleoedd a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion
3. Arian arall a seilir ar niferoedd disgyblion
4. Anghenion addysgol ychwanegol
5. Ffactorau penodol i safle
6. Ffactorau penodol i ysgol
7. Addasiadau cyllideb
8. Cyfanswm y gyfran o'r ISB (prif ffrwd)
9. Arian a seilir ar niferoedd lleoedd
10. Arian a seilir ar niferoedd disgyblion
11. Anghenion addysgol ychwanegol
12. Ffactorau penodol i safle
13. Ffactorau penodol i ysgol
14. Addasiadau cyllideb
15. Cyfanswm y gyfran o'r ISB (Arbennig)
Os nad oes ffactor yn gymwys i ysgol benodol rhaid rhoi sero gyferbyn â'r ffactor hwnnw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 52 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn gymwys i awdurdodau addysg lleol (AALl) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau'n pennu'r wybodaeth am wariant AALl ar addysg y mae'n rhaid ei chynnwys yn y datganiad o wariant cynlluniedig “datganiad cyllideb” y mae'n ofynnol i bob AALl ei baratoi cyn dechrau pob blwyddyn ariannol o dan is-adran (1) o adran 52. Mae'r Rheoliadau yn disodli Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999 sy'n cael eu diddymu.
O dan reoliad 4, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei baratoi mewn tair rhan, fel a ganlyn—
(a)Rhan 1, ar y ffurf a chan gynnwys y manylion gwariant cynlluniedig ar gyfer yr ysgolion unigol a bennir yn Atodlen 1;
(b)Rhan 2, ar y ffurf a chan gynnwys yr wybodaeth o ran y fethodoleg ar gyfer penderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb a bennir yn Atodlen 2; ac
(c)Rhan 3 , sy'n cynnwys yr wybodaeth o ran cyfran pob un o ysgolion yr awdurdod o'r gyllideb a bennir yn Atodlen 3.
Rhaid cwblhau Rhan 1 a 2 yn Gymraeg ac yn y Saesneg. Gellir cwblhau Rhan 3 yn y naill iaith neu'r llall neu'n y ddwy.
Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb — gweler rheoliadau 5—8.
Y newid mwyaf arwyddocaol ar y Rheoliadau blaenorol yw nad yw mwyach yn ofynnol cyflwyno gwybodaeth ar lefel yr AALl (Atodlen 1 i Reoliadau 1999), oherwydd ceir hyn ar ffurflenni diwygiedig cyfrif refeniw (RA) llywodraeth leol.
Mae Rhan 1 o'r datganiad cyllideb (gwybodaeth lefel ysgol) yn egluro sut i ymdrin ag ysgolion sydd ar fin agor neu ar fin cau yn ystod y flwyddyn ariannol. Cafodd Rhan 2 (ffactorau ariannu) ei diwygio er mwyn ei gwneud yn gliriach i'w dilyn a'i chwblhau. Mae Rhan 3 (cymhwyso ffactorau at ysgolion) bellach yn rhagnodi is-gyfansymiau, er mwyn sicrhau cysondeb ac er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy defnyddiol i ysgolion.
1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
1996 p.56. Diwygiwyd adran 312(4) gan baragraff 71 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.
O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy. 40) a 2001/495 (Cy. 22).
Diwygiwyd adran 5(3) gan baragraff 59 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.