xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'i wneud
25 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118 (5), (6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) At ddiben arfer unrhyw bŵ er i wneud gorchmynion, rheoliadau neu reolau neu i baratoi codau ymarfer a'u cyhoeddi yn unig, 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adrannau 56 i 62, 64(2) i (4) a 65 ddod i rym.
(2) 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adran 71 ddod i rym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ebrill 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 30 Ebrill 2002 fel y diwrnod y bydd darpariaethau penodol yn Rhan IV o'r Ddeddf Safonau Gofal (“y Ddeddf”) yn dod i rym i'r graddau y mae'r darpariaethau yn rhoi pwerau, mewn perthynas â Chymru, i wneud gorchmynion, rheoliadau neu reolau, neu i baratoi codau ymarfer a'u cyhoeddi.
Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol (adran 56 a 60 o'r Ddeddf); defnyddio'r teitl “gweithiwr cymdeithasol” (adran 61); codau ymarfer ynglŷn â safonau ymddygiad a safonau ymarfer y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol a'u cyflogwyr lynu wrthynt (adran 62); cymwysterau gwaith cymdeithasol a gafwyd y tu allan i Gymru (adran 64); a hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol ar ôl iddynt gael eu cofrestru (adran 65).
Mae'r Gorchymyn yn pennu 30 Ebrill 2002 hefyd fel y diwrnod y bydd adran 71 o'r Ddeddf yn dod i rym, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae adran 71 yn gwneud darpariaeth am reolau sy'n cael eu gwneud o dan Ran IV.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) y gwneir cofnod ynglŷ n â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad sydd wedi'i bennu ochr yn ochr â'r cofnod amdanynt. Daethpwyd â'r darpariaethau hynny y mae “(a)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy. 192) (C.93); daethpwyd â'r rhai y mae “(b)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/139 (Cy. 5) (C.7); daethpwyd â'r rhai y mae “(c)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy. 152) (C.70); daethpwyd â'r rhai y mae “(ch)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy. 192) (C.80); daethpwyd â'r rhai y mae “(d)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy. 205) (C.82); daethpwyd â'r rhai y mae “(dd)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy. 213) (C.83); daethpwyd â'r rhai y mae “(e)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy. 235) (C.92); a daethpwyd â'r rhai y mae “(f)” ar eu hôl i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24).
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adrannau 1—5 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 7(7) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 9(2) (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 9(3)—(5) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 10(2)—(7) (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 11—12 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 11—12 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 13 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 14—15 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 14—15 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 16 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 17—21 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 22—23 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 24 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 25 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 26—32 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 33—35 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 37 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 38 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (y gweddill) (d) | 31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42—43 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 48—52 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 54(1), (3)—(7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 63 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 66 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 67 (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 70(1) (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 71 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 72A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 72B ac Atodlen 2A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75A (e) | 26 Awst 2001 |
Adrannau 76 i 78 (fel y'i diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(1) (y gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(2) & Atodlen 3 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(3),(4) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(5) (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107—108 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 110 (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 112 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 113 (2)—(4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 115 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 117 (2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ynglŷn â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'r cofnod amdanynt.
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (y gweddill) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 | 15 Medi 2000 |
Adran 100 | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 | 2 Hydref 2000 |
Adran 103 | 2 Hydref 2000 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol mae gwahanol ddarpariaethau eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S.2002/839(C.22); O.S. 2002/1245 (C.33).
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (“appropriate Minister”). Diffinnir yr “appropriate Minister” yn adran 121(1). Mae'n golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru (mae adran 5(b) yn darpau mai ystyr “y Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru); mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.