(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.

Diwygir Rheoliad 3 o Reoliadau 2000 er mwyn lleihau hyd y flwyddyn ysgol 2001—2002 gan un diwrnod, o 380 o sesiynau i 378 o sesiynau, ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol ac ysgolion arbennig nad ydynt yn cael eu cynnal felly. Bydd y rheoliad hwnnw'n caniatáu i'r ysgolion hynny gymryd diwrnod ychwanegol o wyliau yn ystod blwyddyn ysgol 2001—2002 mewn perthynas â gŵ yl banc jiwbili aur y Frenhines sy'n digwydd yn ystod wythnos gwyliau hanner tymor, ddydd Llun 3 Mehefin 2002.

Ychwanegir rheoliad 5 newydd i Reoliadau 2000 sydd yn ymestyn y mwyafrif o sesiynau y gellir eu neilltuo yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi gan ddwy sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2002—2003 ar gyfer hyfforddi sydd yn ymwneud ag addysgu plant yn yr ail a'r trydydd cyfnod allweddol.