Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym am hanner dydd ar 10 Ebrill 2002, yn diwygio Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000 (O.S. 2000/1673, fel y'u diwygiwyd) ac yn darparu mewn perthynas â Chymru fod y canlynol yn effeithiol—

Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/242/EC (OJ Rhif L82, 26.3.2002, t.18), sy'n diwygio Penderfyniad 2001/327/EC (OJ Rhif L115, 25.4.2001, t.12), sy'n ymwneud â chyfyngu ar symud anifeiliaid o rywogaethau a allai ddioddef o glwy'r traed a'r genau, am y nawfed tro.

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn.