(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n disodli darpariaethau a geid yn flaenorol yn Rheoliadau Addysg (Cofnodion Ysgol) 1989, yn darparu i bennaeth yr ysgol gadw cofnodion am gyraeddiadau academaidd a medrau a galluoedd a chynnydd (cofnodion cwricwlaidd) disgybl mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol (ac eithrio ysgol feithrin) ac ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal felly (rheoliad 4).

Maent hefyd yn darparu i'r pennaeth ddatgelu a throsglwyddo cofnodion addysgol (fel y'u diffinnir yn rheoliad 3) i rieni ac i ysgolion y mae disgyblion yn trosglwyddo iddynt (rheoliad 5).

Os yw hynny'n ofynnol, rhaid darparu'r cofnodion addysgol gwreiddiol ynghyd รข chyfieithiad i Gymraeg neu Saesneg neu i iaith arall (rheoliad 6).

Mae Rheoliadau 1989 yn cael eu diddymu (rheoliad 7).