Dehongli2.

(1)

Yn y Cynllun hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “banc” (“bank”) yw

    1. (i)
      unrhyw sefydliad sydd am y tro wedi'i awdurdodi o dan Ddeddf Bancio 19873;
    2. (ii)

      unrhyw berson sydd am y tro wedi'i bennu mewn unrhyw un o baragraffau 2 i 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (personau esempt),

    3. (iii)
      unrhyw berson y mae ganddo hawl am y tro, yn rhinwedd Rheoliadau Cydgysylltu Bancio (Ail Gyfarwyddeb y Cyngor) 19924) i dderbyn adneuon (o fewn ystyr y Ddeddf) yn y Deyrnas Unedig;
  • ystyr “cynhyrchu moch” (“pig production”) yw unrhyw fath o gynhyrchu moch gan gynnwys bridio, magu a gorffen;

  • ystyr “cynllun busnes” (“business plan”) yw cynllun manwl sy'n nodi amcanion y busnes, y strategaeth a'r tactegau ar gyfer bodloni'r amcanion hynny, amcangyfrifon ynghylch amgylchiadau ariannol ac amgylchiadau eraill y busnes os digwydd i'r amcanion gael eu gwireddu a'r buddsoddi sy'n angenrheidiol i wireddu'r amcanion hynny; ac

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)

Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad—

(a)

at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Cynllun hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)

at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.