2001 Rhif 607 (Cy.30)
TAI, CYMRU

Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001

Wedi'i wneud
Yn dod i rym Dydd Gwyl Dewi
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵ er a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 189(2) o Ddeddf Tai 19961 sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru2; ar ôl ymgynghori ag unrhyw gymdeithasau sy'n cynrychioli'r awdurdodau perthnasol ac unrhyw bersonau eraill sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 189(3) :

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar Ddydd Gwyl Dewi, Mawrth 1af 2001.

(2)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Personau y mae arnynt angen blaenoriaethol i gael llety2.

Mae ar y disgrifiadau o berson a bennir yn erthyglau 3 i 7 angen blaenoriaethol i gael llety o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1996.

Person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed3.

(1)

Person Sydd

(a)

yn 18 oed neu'n hyn ond o dan 21 oed; a

(b)

a oedd ar unrhyw adeg pan oedd yn dal yn blentyn, ond nad yw bellach, yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu; neu

(c)

sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol.

(2)

Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu” yw:

(a)

yn derbyn gofal gan awdurdod lleol;

(b)

yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol neu ar ei ran;

(c)

yn cael ei letya mewn cartref preifat i blant;

(ch)

yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

(i)

gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu

(ii)

mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu

(d)

yn cael ei faethu'n breifat.

Person 16 neu 17 oed4.

Person sy'n 16 neu'n 17 oed.

Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref5.

Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.

Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog6.

(1)

Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.

(2)

Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” yr ystyr a roddir i “regular armed forces of the Crown” yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.

Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa7.

(1)

Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.

(2)

Ystyr “carcharor” yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”), mae ar yr awdurdodau tai lleol ddyletswydd i ddarparu llety ar gyfer y rhai sy'n ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, ac arnynt angen blaenoriaethol.

Mae adran 189 o Ddeddf 1996 yn nodi disgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol ac mae hefyd yn rhoi pŵ er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru bennu rhagor o ddisgrifiadau.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu rhagor o ddisgrifiadau o bersonau y mae arnynt angen blaenoriaethol:

  • person sy'n ymadael â gofal neu berson sydd mewn perygl neilltuol o ecsbloetio rhywiol neu ariannol, ac sy'n 18 oed neu drosodd ond o dan 21 oed (erthygl 3)

  • person 16 neu 17 oed (erthygl 4)

  • person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref (erthygl 5)

  • person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog (erthygl 6)

  • cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa (erthygl 7).