Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.