(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod cymorth yn cael ei dalu i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac i gydymffurfio ag amodau penodol ynglŷn â rheoli'r amgylchedd, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80) (“y Rheoliad Datblygu Gwledig”).
Bu Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 a wnaed o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd cynharach yn darparu gynt ar gyfer cymorth ar gyfer ffermio organig. Caewyd y cynllun o dan Reoliadau 1994 i geiswyr newydd gan Reoliadau Ffermio Organig) Cymru 1999. Darparwyd ynddynt hefyd y gallai'r rhai a oedd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 barhau i wneud hynny neu ddewis i dderbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.
Ni fydd y dewis hwnnw bellach ar gael ac fe fydd y rhai sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 yn parhau i wneud hynny hyd nes y bydd y taliadau yn dod i ben yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hynny.
Fe fydd y Rheoliadau presennol yn cymeryd lle Rheoliadau 1999, ac fe fyddant yn gymwys i'r rhai a fu'n derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.08.1999, t.31) (“Rheoliad y Comisiwn”), sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r Rheoliad Datblygu Gwledig.
Mae'r Rheoliadau—
(a)yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau cymorth, yn ddarostyngedig i amodau penodedig, ac i bennu cyfradd y cymorth (rheoliadau 3 a 4, ac Atodlen 1);
(b)yn pennu yr amodau cymhwyster sydd i'w bodloni gan geiswyr am gymorth (rheoliad 5 ac Atodlen 2), y rhagamodau gweithdrefnol a ffurfiol penodol ar gyfer derbyn ceisiadau am gymorth (rheoliadau 6 a 9), y cyfyngiadau penodol ar dalu cymorth (rheoliad 7); ac
(c) yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag ystyried ceisiadau am gymorth os bydd yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau yn annigonol (rheoliad 8);
(ch)yn darparu ar gyfer amrywio'r ymrwymiadau sy'n cael eu rhoi gan geiswyr am gymorth ac ar gyfer diwygiadau i gynlluniau trosi (rheoliadau 10 ac 11);
(d)yn darparu ar gyfer talu cymorth i feddiannydd newydd pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth uned organig neu ran o uned organig oherwydd marwolaeth buddiolwr neu fel arall (rheoliad 12);
(dd)yn dod i ben a gallu buddiolwyr o dan Reoliadau 1994 i wneud cais i gael eu trin fel rhai y mae hawl ganddynt i gael cymorth o dan y Rheoliadau 1999; ac yn cymhwyso'r Rheoliadau presennol i'r rhai sydd eisioes yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 (rheoliad 13);
(e)yn gorfodi dyletswyddau ynglŷn â chadw cofnodion ac yn rhoi pwerau mynediad ac archwilio (rheoliadau 14 a 15);
(f)yn darparu ar gyfer gwrthod neu adennill cymorth ac adennill llog (rheoliadau 16, 17 a 18);
(ff)darparu ar gyfer tramgwydd gwneud datganiad yn ffug, a darparu mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath sy'n cael ei gyflawni gan gorfforaeth (rheoliadau 19 ac 20).
Mae'r safonau UKROFS (y Cyfeirir atynt yn rheoliadau 2(1) a 5(2)) yn cael eu cyhoeddi gan Swyddfa Ysgrifennydd UKROFS, Ystafell G47, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR ac mae copïau ar gael oddi wrthynt.
Ceir archwilio copïau o Fap Rhostiroedd Cymru 1992 yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd;
Adeiladau'r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon;
Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin; ac
Adeiladau'r Llywodraeth, Spa Road East, Llandrindod.
Mae copïau o'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da er diogelu Pridd, Aer, Dŵ r ac ar gyfer Plaleiddiaid (y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 2) ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.